Newyddion S4C

Cyn Ysgrifennydd Cymru ‘wedi achub gwleidydd o asiant y KGB’

Simon Hart.
Simon Hart.

Mae dyddiadur cyn Ysgrifennydd Cymru wedi codi aeliau yn San Steffan wedi iddo ddweud ei fod wedi gorfod trefnu tacsi i achub cyd AS o buteindy lle’r oedd yn dweud ei fod yn cael ei gadw gan asiant KGB.

Dywedodd Simon Hart a oedd yn Aelod Seneddol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro cyn etholiad 2024 ei fod wedi cael cyfres o brofiadau rhyfedd tra’n Brif Chwip yn llywodraeth Rishi Sunak.

Mae wedi cyhoeddi ei dyddiadur ar ffurf llyfr newydd Ungovernable a fydd ar gael i’w brynu'r wythnos nesaf.

Roedd Simon Hart yn Ysgrifennydd Cymru rhwng diwedd 2019 a 2022 yn llywodraeth Boris Johnson cyn cael swydd y Prif Chwip rhwng 2022 a 2024.

Cafodd rhannau o’r gyfrol eu cyhoeddi ym mhapur newydd y Times gan fanylu ar sawl tro trwstan yn ystod cyfnod Simon Hart yn y llywodraeth.

Dywedodd Simon Hart iddo dderbyn galwad yn oriau mân y bore ar Dachwedd 24, 2022.

Honnir bod y gwleidydd Ceidwadol wedi dweud wrtho ei fod mewn puteindy gyda 12 o ferched noeth a theledu cylch cyfyng.

Honnodd yr AS, sydd heb ei enwi, ei fod wedi “rhedeg allan o arian” a bod angen cynilo arno.

“Roeddwn i wedi cwrdd â menyw wrth i mi adael y Carlton Club a gynigiodd ddiod i mi, ond rydw i nawr yn meddwl ei bod hi'n asiant KGB,” meddai'r AS.

Dywedodd Simon Hart ei fod wedi llwyddo i drefnu tacsi ar ei gyfer a’i fod wedi ffoi i westy.

Bydd rhagor o helyntion y cyn AS yn cael eu cyhoeddi yn y Times yn ystod y dyddiau nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.