Starmer yn amddiffyn Zelensky rhag honiad Trump ei fod yn 'unben'
Mae Syr Keir Starmer wedi datgan ei gefnogaeth i Volodymyr Zelensky ar ôl i Donald Trump ei alw'n "unben sydd ddim yn cynnal etholiadau".
Ar alwad i Mr Zelensky dywedodd Prif Weinidog y DU ei fod yn ei gefnogi "fel arweinydd democrataidd Wcráin" a'i fod yn "hollol resymol gohirio etholiadau yn ystod cyfnod rhyfel fel wnaeth y DU yn ystod yr Ail Ryfel Byd," meddai llefarydd ar ran Stryd Downing.
Fe ddaeth yr alwad ar ôl sylwadau gan Arlywydd America, Donald Trump, a oedd yn beirniadu Zelensky am ohirio etholiadau a'n cyhuddo Wcráin o ddechrau'r rhyfel yn erbyn Rwsia.
Dywedodd Trump mewn digwyddiad ym Miami ddydd Mercher bod arlywydd Wcráin yn "gwrthod cynnal etholiadau."
"Mae rhywun wedi dweud 'mae'n gwneud yn dda yn y plau', ond mae pob dinas yn cael ei ddinistrio," meddai.
"Maen nhw'n edrych fel safle dymchwel, pob un ohonynt. Yn y cyfamser, rydym mewn trafodaethau gyda Rwsia i ddod â'r rhyfel i ben."
'Ofnadwy'
Cafodd Zelensky ei ethol yn 2019 ac roedd etholiad i fod i gael ei gynnal yn 2024, ond ni chafodd ei gynnal oherwydd y rhyfel gyda Rwsia.
Yn gynharach ddydd Mercher, dywedodd Mr Zelensky fod Mr Trump yn byw mewn “byd o wybodaeth ffug".
Fe wnaeth Mr Trump gyhuddo Zelensky o fod yn "flin" na chafodd ei gynnwys yn y trafodaethau rhwng Rwsia ac America a gafodd eu cynnal yn Saudi Arabia.
"Mae'n flin iawn nad oedd wedi derbyn gwahoddiad. Mae wedi bod yn gweithio am dair blynedd ond does dim cyfarfodydd na galwadau ffôn i ddod â'r rhyfel yma i ben," meddai.
"Dwi'n caru Wcráin, ond mae Zelensky wedi gwneud ei swydd yn ofnadwy.
"Mae ei wlad yn deilchion ac mae miliynau ar filiynau o bobl wedi marw'n ddiangen. Dydych chi methu dod â diwedd i ryfel os nad ydych chi'n siarad gyda'r ddwy ochr."
Dywedodd Donald Trump wrth y BBC mai Rwsia oedd yn y sefyllfa i ddod â'r rhyfel i ben gan mai nhw sydd wedi ennill llawer o'r tir.
Credai hefyd fod Rwsia "wir eisiau i'r rhyfel fod drosodd" a'i fod yn ymddiried ynddynt i sicrhau heddwch
Mae'r Unol Daleithiau a Rwsia yn y broses o benodi timau ar lefel uwch a fydd yn ceisio dod â’r rhyfel yn Wcráin i ben.
Cafodd hynny ei gyhoeddi ddydd Mawrth ar ôl dros bedair awr o drafodaethau rhwng uwch swyddogion o'r ddwy wlad yn Saudi Arabia.
Dyna oedd y trafodaethau wyneb yn wyneb cyntaf rhwng y ddwy wlad ers i Moscow geisio goresgyn Wcráin yn 2022.