Hanner cleifion canser Cymru a Lloegr 'ddim yn cael triniaeth addas'
Dyw hyd at hanner y cleifion canser yng Nghymru a Lloegr ddim yn derbyn y driniaeth gywir i fynd i’r afael â’u clefydau, medd corff sy'n archwilio gofal canser.
Mae ‘na anghysonderau yn y gofal y mae pobl yn ei dderbyn, a hynny’n effeithio waethaf ar ddioddefwyr canser y prostad, arennau a'r coluddyn.
Mae NatCan yn gorff sydd yn archwilio’r gofal sy’n cael ei roi i bobl sy’n brwydro naw math o ganser gwahanol yn ysbytai Cymru a Lloegr. Mae’n cael ei redeg gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ar ran Llywodraeth Cymru a’r GIG yn Lloegr.
Maen NatCan wedi dweud wrth y BBC nad yw hanner y cleifion sy’n brwydro canser yr arennau cam 4 sydd wedi ymledu i rannau gwahanol o’u cyrff yn derbyn cyffuriau i drin eu cyflwr.
Maen nhw hefyd yn dweud nad yw mwy na thraean o gleifion canser y colon cam 3 heb gael cemotherapi o fewn tri mis o dderbyn llawdriniaeth. Mae’r ffigwr hwnnw’n codi i hyd at 60% o gleifion mewn rhai ysbytai.
Dyw 30% o bobl sy’n brwydro canser y prostad sydd mewn cyflwr difrifol ddim yn cael llawdriniaethau na radiotherapi chwaith.
Fe allai’r anghysondebau yn y gofal sy’n cael ei roi fod o ganlyniad i ddiffyg staffio, meddai cyfarwyddwr clinigol NatCan.
Ychwanegodd yr Athro Ajay Aggarwal y gallai anghysondebau pellach fod o ganlyniad i rai gwasanaethau yn penderfynu na all rhai cleifion hŷn ddelio â’r math o driniaeth sydd ar gael.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda’r GIG i “wella gwasanaethau canser.”
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU eu bod nhw wedi “ymrwymo i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd wrth i ni ailadeiladu’r GIG.”