
Cyfres newydd yn rhoi cyfle i gomedïwyr ifanc i 'ddatblygu eu doniau'
Bydd cyfres deledu newydd ar S4C yn rhoi cyfle i gomedïwyr ifanc i "arddangos a datblygu eu doniau".
Bydd Academi Gomedi yn rhoi cyfle i saith o ddisgyblion, sydd rhwng naw ac 11 oed, i ddysgu gan gomedïwyr proffesiynol o Gymru.
Y digrifwr Steffan Alun fydd yn arwain yr academi gan gefnogi’r criw dros gyfnod o chwe wythnos wrth iddyn nhw feithrin eu sgiliau comedi.
Bydd Steffan yn croesawu comedïwyr adnabyddus, gan gynnwys Iwan John, Esyllt Sears, Beth Jones ac Eleri Morgan, i gynnal gweithdai.
Ar ddiwedd eu hamser yn yr academi, bydd y saith yn perfformio sioe arbennig o flaen eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Y comediwyr ifanc fydd yn ddisgyblion yn yr Academi Gomedi yw:
• Cari, naw oed o Ynys Môn
• Davy, 11 oed o Gaerfyrddin
• Harri a Daniel, ffrindiau 10 oed o Landysul
• Mali a Macsen, efeilliaid naw oed o Benarth
• Myfi, 11 oed o Gaerdydd.
'Pwysig meithrin talent'
Dywedodd Steffan Alun bod meithrin talent comedi ymhlith pobl ifanc yn hollbwysig ar gyfer dyfodol y maes.
"Mae comedi yn Gymraeg wedi bod yn tyfu ers blynyddoedd, ac mae mwy a mwy yn gwneud standyp," meddai.

"'Da ni yn wlad sy’n cynhyrchu comedi; mae’n rhan o’n traddodiad a’n diwylliant ni, ac mae’n boblogaidd.
"Mewn 10 mlynedd bydd y plant ‘ma’n oedolion; dw i’n edrych mlaen i’w gweld nhw ar lwyfan go iawn mewn nosweithiau comedi proffesiynol."
Bydd y gyfres i’w gweld o 19 Chwefror am 17:15 yn rhan o Stwnsh, gwasanaeth S4C i blant, yn ogystal ag S4C Clic a BBC iPlayer.