Person wedi marw yn dilyn tân ym Mhontcanna, Caerdydd

Mae person wedi marw yn dilyn tân mewn fflat ym Mhontcanna, Caerdydd.
Cafodd criwiau'r Gwasanaeth Tân, parafeddygon a swyddogion yr heddlu eu galw i'r fflat ar Ffordd Conway am 18:15 nos Sul.
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau bod un person wedi marw.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu eu bod yn "ymchwilio i dân ar Ffordd Conway ym Mhontcanna, Caerdydd.
"Nid yw'n ymddangos fod unrhyw amgylchiadau amheus ar hyn o bryd."
Ychwanegodd y llu bod teulu'r person wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Nid oes rhagor o wybodaeth am y digwyddiad wedi cael ei ddatgelu hyd yma.
Llun: Media Wales