Newyddion S4C

Costau staffio'r gwasanaeth iechyd wedi cynyddu 60% mewn saith mlynedd

18/02/2025
Doctoriaid / Nyrsys / Ward / Ysbyty

Mae angen i'r Gwasanaeth Iechyd "addasu" wrth i adroddiad ddatgelu bod costau staffio'r gwasanaeth wedi cynyddu dros 60% mewn saith mlynedd.

Yn 2023/24 roedd costau staffio'r GIG wedi cyrraedd £5.23 biliwn, sydd yn 62% yn uwch nag yn 2017/18, yn ôl adroddiad gan Archwilio Cymru.

Dywedodd Adrian Crompton, archwilydd cyffredinol Archwilio Cymru "bod rhaid i’r GIG a’i bartneriaid addasu’r ffordd y maent yn gweithio."

Mae'r adroddiad yn croesawu'r twf yng ngweithlu'r GIG oherwydd galw am staff, ond hefyd yn cwestiynu os yw staffio ar y gyfradd bresennol yn gynaliadwy.

Ychwanegodd yr adroddiad fod angen i "GIG Cymru addasu i’r galw newidiol y mae’n ei wynebu" ac yn galw am gynllun newydd gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad gydag uwch arweinwyr yn GIG Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bellach mae gan y GIG yng Nghymru fwy o staff nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, gan gyflogi bron i 97,000 o staff cyfwerth ag amser llawn yn uniongyrchol - cynnydd o 21% ers cyn y pandemig.

"Ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi £294m ar hyfforddi aelodau newydd o'r gweithlu ac yn parhau i weithio gyda chyflogwyr ac undebau i ddarparu'r amgylchedd gwaith a'r amodau y mae staff y GIG yn eu haeddu.

"Rydym yn disgwyl y bydd gostyngiad yng ngwariant asiantaethau yn 2024-25 i oddeutu £173m."

'Ansicrwydd'

Yn ôl yr adroddiad, mae gwelliannau wedi eu gwneud mewn rhai meysydd o fewn y gwasanaeth iechyd.

Mae'r rhain yn cynnwys datblygiadau mewn meysydd allweddol fel rheoli absenoldeb oherwydd salwch a lleihau’r defnydd o staff asiantaeth.

Er bod gwariant ar staff asiantaeth wedi lleihau yn y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth gostio £262 miliwn yn 2023-24.

Mae heriau eraill yn parhau i fodoli gyda recriwtio a chadw staff medd Archwilio Cymru, gan gynnwys y ddibyniaeth ar staff asiantaeth i lenwi bylchau yn y gweithlu.

Mae dros 5,600 o swyddi gwag yn GIG Cymru ar y cyfan, gyda thros 10% o swyddi meddygol a deintyddol yn wag ar hyn o bryd, meddai'r adroddiad.

Mae'r rhain wedi "atal cynnydd" o fewn y gwasanaeth iechyd ac yn golygu bod "ansicrwydd ynghylch siâp gwasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol."

'Arweinyddiaeth eglur ar unwaith'

Dim ond rhan o’r datrysiad yw ymdrin â’r angen am gynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu, meddai'r adroddiad.

Yr hyn sydd angen meddai Archwilio Cymru yw "arweinyddiaeth eglur i’w ddatblygu a’i roi ar waith."

Byddai hyn yn golygu newid trefniadau cyfredol ar gyfer cynllunio’r gweithlu i fod yn llai cymhleth.

Dywedodd Adrian Crompton fod angen datblygu dull cryfach ledled Cymru er mwyn gallu cynllunio'r gweithlu yn well.

“Mae’r GIG yng Nghymru’n parhau i wynebu heriau sylweddol o ran y gweithlu," meddai.

"Gosododd y pandemig bwysau enfawr ar y GIG ac nid yw’r pwysau hwnnw wedi diflannu. Mae’r galw am wasanaethau’n dal i fod yn uchel ac mae disgwyl iddo dyfu ymhellach. 

"Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rai datblygiadau cadarnhaol ond hefyd at yr angen am weithredu pwysig mewn nifer o feysydd, yn anad dim o ran datblygu dull cenedlaethol cryfach a mwy cydlynol o gynllunio’r gweithlu. 

"Yn fy marn i mae hyn yn hollbwysig i ddatblygu gweithlu iechyd a gofal sy’n gryf ei gymhelliant, yn gydnerth ac yn meddu ar sgiliau priodol i sicrhau ei fod yn rhoi gofal cynaliadwy o’r ansawdd gorau posibl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.