Starmer yn 'fodlon' anfon milwyr Prydain i Wcráin i amddiffyn heddwch
Mae Prif Weinidog y DU wedi dweud ei fod yn "fodlon" anfon milwyr Prydain i Wcráin os bydd yna gytundeb i orffen y rhyfel gyda Rwsia.
Fe fydd Syr Keir Starmer yn ymuno gydag arweinwyr Ewrop ar gyfer sgyrsiau brys ym Mharis yn ddiweddarach. Fe fyddan nhw'n ceisio cynllunio strategaeth mewn ymateb i sylwadau Donald Trump.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn gwthio am gytundeb heddwch gyda Rwsia ond mae yna bryderon bod Ewrop yn cael ei chadw allan o'r sgyrsiau hynny.
Wrth ysgrifennu yn The Daily Telegraph dywedodd y Prif Weinidog nad "ar chwarae bach" ei fod yn dweud y byddai milwyr o Brydain yn gallu cael eu hanfon.
"Rwy wir yn teimlo'r cyfrifoldeb sydd yn dod trwy roi ein milwyr Prydeinig o bosib mewn perygl," meddai.
Ond dywedodd bod unrhyw rôl y gall Prydain chwarae sydd yn "helpu i warantu diogelwch Wcráin hefyd yn helpu i warantu diogelwch ein cyfandir a diogelwch y wlad yma".
Ychwanegodd bod yn rhaid i'r cytundeb heddwch olygu diwedd parhaol i'r rhyfel a dim "seibiant dros dro cyn bod Putin yn ymosod eto".
Yn y gorffennol dim ond awgrymu y gallai milwyr Prydain helpu i amddiffyn Wcráin wedi diwedd ar y brwydro mae Syr Keir Starmer wedi gwneud.