Newyddion S4C

Seiclo: Anna Morris yn torri record byd ddwywaith wrth ennill aur

16/02/2025
Anna Morris

Mae’r seiclwraig Anna Morris o Gaerdydd wedi torri record byd ddwywaith mewn un diwrnod wrth iddi ennill y fedal aur ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac Ewropeaidd yng Ngwlad Belg.

Fe dorrodd y Gymraes 29 oed record y byd am y tro cyntaf yn rowndiau rhagbrofol y ras gwrs unigol, gan glocio 4:28.3 dros 4 cilomedr wrth ennill ei ras.

Fe dorrodd y record unwaith eto yn y rownd derfynol gydag amser o 4:25.8 i guro Vittoria Guazzini o’r Eidal a dod y fenyw gyntaf i ennill y teitl Ewropeaidd yn y fformat 4km newydd.

Roedd Morris yn rhan o dîm Prydain wnaeth ennill y fedal efydd yn y ras gwrs yng Ngemau Olympaidd Paris.

Llun: British Cycling

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.