Arestio dyn yn dilyn gwrthdaro cyn gêm bêl-droed yng Nghaerdydd
Mae un dyn wedi ei arestio yn dilyn gwrthdaro rhwng cefnogwyr yn y brifddinas cyn y gêm bêl-droed rhwng Caerdydd a Bristol City ddydd Sadwrn.
Roedd adroddiadau bod heddlu ar geffylau a swyddogion arbenigol wedi eu galw ar ôl yr anhrefn ger cyffordd Heol Eglwys Fair a Stryd Wood.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod un dyn wedi cael ei arestio am drosedd trefn gyhoeddus.
“Mae gêm ddarbi fel hon bob amser yn dod ag awyrgylch llawn gwefr,” meddai Heddlu De Cymru.
"Yn anffodus, fe fydd 'na leiafrif o hyd sy'n ceisio ymgysylltu ag anhrefn ond mae swyddogion yn ymateb yn gyflym i atal unrhyw ddigwyddiadau o'r fath.”
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas: “Er ei bod yn siomedig gweld ymddygiad llond llaw o bobl ffol, nid oes unrhyw faterion parhaus yng nghanol dinas Caerdydd, a dim rheswm i gadw draw.
“Dywedwyd wrthyf fod y digwyddiad wedi digwydd tua 10.30 - diolch i Heddlu De Cymru am ymdrin ag ef yn gyflym.”