Newyddion S4C

Dim adolygiad i hyd dedfryd carchar llofrudd Southport, Axel Rudakubana

15/02/2025
Axel Rudakubana

Ni fydd hyd dedfryd y llofrudd Southport, Axel Rudakubana, yn cael ei hadolygu.

Cafodd Rudakubana, 18 oed, ddedfryd oes ym mis Ionawr am lofruddio tair merch fach mewn ymosodiad yn Southport fis Gorffennaf y llynedd.

Bu farw Alice da Silva Aguiar, 9 oed, Bebe King, 6 oed, ac Elsie Dot Stancombe, 7 oed yn yr ymosodiad ar ôl cael eu trywanu gan Rudakubana, oedd yn 17 oed ar y pryd.

Fe fydd yn treulio o leiaf 52 o flynyddoedd dan glo. Wrth roi’r ddedfryd, dywedodd y barnwr yr Ustus Goose y byddai’r llofrudd wedi treulio gweddill ei fywyd yn y carchar pe byddai wedi bod yn oedolyn ar adeg y drosedd.

Mae’r Twrnai Cyffredinol bellach wedi gwrthod galwadau i adolygu’r hyd y bydd Rudakubana yn ei dreulio yn y carchar.

Daw'r galwadau gan aelodau’r cyhoedd dan gynllun i apelio dedfrydau maen nhw'n credu sydd ddim yn ddigon llym, sydd yn cael ei ddefnyddio mewn achosion prin.

Mewn datganiad nos Wener, dywedodd Yr Arglwydd Hermer KC ei fod wedi “dod i’r casgliad na fyddai’r achos yn gallu cael ei gyfeirio at Lys Apêl mewn modd priodol”.

Ychwanegodd na fyddai unrhyw un eisiau i'r teuluoedd gael eu rhoi trwy broses llys bellach ddiangen "lle nad oes sail gyfreithiol realistig ar gyfer dedfryd gynyddol".

Mae isafswm tymor Rudakubana o 52 mlynedd yn golygu na ellir ei ystyried i gael ei ryddhau nes ei fod wedi treulio’r tymor llawn yn y carchar.

Dywedodd yr Arglwydd Hermer mai dedfryd Rudakubana oedd yr "ail ddedfryd hiraf a osodwyd gan y llysoedd yn hanes Lloegr".

Ychwanegodd: “Mae’n debygol na fydd Rudakubana byth yn cael ei ryddhau a bydd yn treulio gweddill ei oes yn y carchar.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.