Kneecap yn gobeithio cyrraedd y brig yng ngwobrau ffilm y BAFTAs
Mae ffilm am dri rapiwr o Belfast yn ceisio achub eu mamaith drwy gerddoriaeth, yn gobeithio profi rhagor o lwyddiant nos Sul yng Ngwobrau Ffilm BAFTA 2025.
Mae'r ffilm gomedi Kneecap yn dilyn hynt a helynt lliwgar y rapwyr Liam Og O Hannaidh, Naoise O Caireallain a JJ O Dochartaigh yn ystod eu hymdrechion i geisio achub eu mamiaith, y Wyddeleg, yn Belfast yn 2019.
Mae'r ffilm hefyd yn cynnwys yr actor Michael Fassbender.
Mae Kneecap wedi ei henwebu mewn chwe chategori ar y noson: Ffilm Ddim yn yr Iaith Saesneg, Sgript Wreiddiol, Castio, Golygu, Ffilm Brydeinig Arbennig a Ffilm Gyntaf Arbennig Gan Awdur, Cyfarwyddwr neu Gynhyrchydd Prydeinig.
Fis Medi diwethaf, fe lwydodd y ffilm i gipio saith gwobr mewn categorïau gwahanol yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain.
Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Sundance ym mis Ionawr y llynedd, pan ddaeth y ffilm Wyddeleg gyntaf i ennill Gwobr y Gynulleidfa yn adran NEXT yr ŵyl.
Mae Wicked, Emilia Perez, Dune 2, The Brutalist a Wallace and Gromit: Vengeance Most Fowl ymhlith y ffilmiau eraill sydd wedi'u henwebu ar gyfer gwobrau yn y seremoni yn y Ganolfan Southbank yn Llundain nos Sul.