Newyddion S4C

Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio wedi i blismyn gael eu hanafu

14/02/2025
Y dyn

Mae dyn 27 oed wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i dri swyddog yr heddlu gael eu hanafu y tu allan i orsaf heddlu yn y de.

Fe wnaeth Alexander Dighton, o Lantrisant, Rhondda Cynon Taf, gynrychioli ei hun yn llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Gwener.

Mae wedi'i gyhuddo o saith trosedd, gan gynnwys ceisio llofruddio ac ymosod ar weithiwr o'r gwasanaeth brys.

Fe aeth swyddogion o Heddlu De Cymru at ddyn y tu allan i orsaf heddlu Tonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn aflonyddwch yno tua 19:00 ar 31 Ionawr.

Cafodd tri swyddog eu hanafu, gyda dau yn gorfod derbyn triniaeth mewn ysbyty. Mae'r ddau bellach wedi'u rhyddhau.

Roedd Dighton wedi gwrthod cael ei gynrychioli gan gyfreithiwr gan ddweud nad oedd yn ystyried y proffesiwn yn un “parchus”.

Pan ofynnwyd iddo ddydd Gwener a fyddai’n ailystyried derbyn cymorth cyfreithiool, dywedodd: “Ddim hyd yn oed yn debygol. Dim siawns o gwbl."

Gofynnodd hefyd i Mrs Ustus Cheema-Grubb a allai gyflwyno ple ond dywedwyd wrtho na allai wneud hynny.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn yr Old Bailey ar gyfer gwrandawiad achos ar 28 Mawrth 28.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.