Priodas Pum Mil yn chwilio am gariadon sy'n dymuno priodi
Mae Priodas Pum Mil yn chwilio am gariadon Cymru sydd yn dymuno priodi am £5,000.
Ar Ddiwrnod Sant Ffolant, mae cynhyrchwyr y gyfres wedi galw am ymgeiswyr ar gyfer y gyfres nesaf o’r rhaglen.
Mae’r gyfres yn dilyn teulu a ffrindiau y pâr lwcus wrth drefnu eu priodas gyda chymorth y ddau gyflwynydd Emma Walford a Trystan Ellis-Morris.
Mae’r trefniadau at y diwrnod arbennig yn digwydd heb yn wybod i’r pâr, a rhaid i bopeth gostio llai na £5,000.
Bydd y gyfres newydd i'w gweld dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, ac mae S4C yn annog cyplau i gyflwyno cais trwy ymweld â gwefan www.priodas.cymru.
Mae Emma Walford wedi cyflwyno’r gyfres ers ei dechrau dros wyth mlynedd yn ôl.
Dywedodd: “Mae pob un rhaglen, pob un cwpwl, eu ffrindiau a’u teuluoedd, wedi bod yn arbennig.
“Mae’r gyfres yn fwy na jyst rhaglenni teledu, da ni’n trefnu diwrnod pwysicaf bywydau y cyplau a dwyt ti wir ddim isho siomi neb!
“Ond hyd yma, efo dros 50 o briodasau wedi bod, mae hi’n parhau yn llwyddiannus.”
Prif lun: Roedd Jack a Silvia yn rhan o'r gyfres ddiwethaf o Priodas Pum Mil.