Newyddion S4C

Undeb Rygbi Cymru 'ofn gwneud penderfyniadau anodd' am y rhanbarthau

Newyddion S4C

Undeb Rygbi Cymru 'ofn gwneud penderfyniadau anodd' am y rhanbarthau

Mae cyfarwyddwr a chyn-gadeirydd y Scarlets wedi dweud ei bod hi'n "anodd cael ffydd" yn arweinyddiaeth Undeb Rygbi Cymru gan eu bod "ofn gwneud penderfyniadau anodd".

Dywedodd Ron Jones wrth raglen Newyddion S4C fod Undeb Rygbi Cymru yn "canolbwyntio gormod ar dîm Cymru" a'u bod yn amharod i wynebu’r realiti ariannol o orfod lleihau’r nifer o ranbarthau.

Fe ddwedodd Undeb rygbi Cymru bod cytundeb ar y gorwel gyda'r pedwar rhanbarth fydd yn cynyddu yr arian sydd ar gael iddyn nhw ac yn sicrhau eu dyfodol.

Ers dros chwarter canrif, mae'r dyn busnes Ron Jones, a sefydlodd gwmni teledu Tinopolis yn Llanelli, hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd clwb a rhanbarth rygbi'r Scarlets. 

Wedi i Warren Gatland adael ei swydd fel prif hyfforddwr tîm cenedlaethol y dynion ddydd Mawrth, mae Mr Jones wedi beirniadu’r arweinyddiaeth o fewn i’r undeb.

"Mae mor drist na wnaeth yr undeb wneud y penderfyniad [i ddiswyddo Warren Gatland] yn gynharach a gweithredu er budd rygbi yng Nghymru".

Mae hefyd yn honni fod Warren Gatland "yn amlwg wedi colli cefnogaeth y chwaraewyr ers yr arolwg a wnaed cyn y Nadolig".

Image
URC
Abi Tierney, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru (Llun: ITV)


Ar ôl colli 14 gêm yn olynol, daeth ail gyfnod Gatland fel prif hyfforddwr i ben yr wythnos hon, hanner ffordd trwy bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond mae Undeb Rygbi Cymru yn mynnu iddyn nhw gynnal adolygiad trylwyr yn yr Hydref a chanfod na fyddai’r tim yn elwa o Gatland yn gadael a’i fod yn teimlo fod ganddo rywbeth i’w gynnig  o hyd i’r tîm ar y pryd.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Undeb Rygbi Cymru wedi wynebu heriau oddi ar y cae.

Ddwy flynedd yn ôl cafodd streic gan y chwaraewyr ei galw i ffwrdd ar y funud olaf cyn wynebu Lloegr, a daeth adolygiad annibynnol damniol i’r casgliad bod diwylliant rhywiaethol, misogynistaidd, hiliol a homoffobig o fewn yr Undeb.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl cafodd Abi Tierney ei phenodi'n brif weithredwr newydd yr Undeb, a daeth Richard Collier-Keywood yn Gadeirydd newydd yn 2023.

Gwelliannau

Ond mae Mr Jones yn ddamniol o’u perfformiad hyd yma:

"Mae'n rhaid cwestiynu sut allwch chi gymryd mor hir cyn i benderfyniadau gael eu gwneud a bod unrhyw welliannau i’w gweld yn unrhyw agwedd o rygbi Cymru?

"Rwy'n credu bod newyddiadurwyr wedi bod yn araf yn gofyn beth sydd wedi digwydd, a beth sydd wedi newid er gwell yn ystod y cyfnod? 

"Maen nhw wedi bod yno am amser hir nawr - yn y rhan fwyaf o fusnesau, bydden nhw byth wedi bod ddigon ffodus o gael blwyddyn gyfan heb orfod gwneud unrhyw gyhoeddiadau am yr hyn y maen nhw'n credu sydd angen ei wneud yn yr hir dymor a dangos unrhyw dystiolaeth bod pethau yn digwydd.

“Mae'n anodd ymddiried yn yr undeb ar hyn o bryd pan nad oes unrhyw gydnabyddiaeth o realiti ariannol y gêm yng Nghymru... mae rygbi Cymru mewn trafferthion ariannol mawr a dyw hi ddim yn ymddangos ein bod ni’n gallu ymateb yn iawn i ddelio â beth allai fod yn ddifrod sylweddol i'r gêm.”

Image
Chwe gwlad
Mae Cymru wedi colli 14 gêm yn olynol, ond mae heriau oddi ar y cael hefyd (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Er ei fod yn gyfarwyddwr ar un o bedwar tîm rhanbarthol Cymru, mae'n dweud nad oes opsiwn ond cael gwared ag o leiaf un o'r timau hyn.

"Mae'r syniad y gallwn ni fforddio pedwar clwb proffesiynol yng Nghymru yn hurt. Dydyn ni ddim yn genedl ddigon mawr nawr i gael y dylanwad masnachol i wneud hynny.

“Does gennym ni’m y dyfnder mwyach i gefnogi pedwar clwb. Sa i’n credu y bydd yr undeb yn gallu sicrhau cynnydd hirdymor yn eu refeniw os ydyn nhw'n mynd i gefnogi'r gêm fel y mae ar lefelau clwb a rhanbarthol. 

“Yn anffodus, ac yn drist mae’r amser wedi dod i dorri nifer y rhanbarthau i lawr i ddau neu dri i ymateb i realiti ariannol rygbi Cymru. 

“Dros y blynyddoedd, mae’r undeb wedi bod ofn beirniadaeth,  ac o ganlyniad ma’ penderfyniadau anodd wedi eu gohirio.

"Mae hynny i’w weld gyda diswyddiad Gatland. Ac rwy’n credu y byddwn ni'n ei weld hefyd gyda'r penderfyniad i barhau gyda phedwar rhanbarth.”

Cytundeb

Wrth ymateb i sylwadau Mr Jones, fe ddwedodd Undeb Rygbi Cymru bod cytundeb ar y gorwel gyda'r pedwar rhanbarth fydd yn cynyddu yr arian sydd ar gael iddyn nhw ac yn sicrhau eu dyfodol.

Yn ol Prif Weithredwr  Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney, mae angen newidiadau mawr i sicrhau dyfodol y gêm, ond mae newid o'r fath yn cymryd amser ac mae rhai newidiadau wedi eu gwneud.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.