Digartrefedd yng Nghymru 'ar ei waethaf erioed' medd elusen
13/02/2025Digartrefedd yng Nghymru 'ar ei waethaf erioed' medd elusen
Mae sefyllfa digartrefedd yng Nghymru ar ei waethaf ac mae’n broblem gynyddol, yn ôl elusen sy’n gweithio yn y maes.
Yn ôl Byddin yr Iachawdwriaeth mae diffyg adnoddau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Yng Nghaerdydd, mae ffigyrau yn dangos bod bron i 2,000 o unigolion a theuluoedd yn ddigartref ac yn defnyddio llety dros dro, fel gwely a brecwast.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i’r afael â’r sefyllfa ac i ddarparu mwy o dai.
Mae digartrefedd wedi codi i’w lefel uchaf ers 2015.
Roedd 13,539 aelwydydd yn ddigartref yn 2023/24 - 8% yn uwch na’r flwyddyn gynt.
Yn ôl ffigyrau gan Gyngor Caerdydd roedd 1,888 o aelwydydd yn ddigartref yn y brifddinas ym mis Tachwedd y llynedd.
Mae hynny’n gynnydd o 37% o’i gymharu â’r ffigwr oedd yn 1,370 ym mis Medi 2020.
Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos bod bron i 50 o bobol yn cysgu ar strydoedd Caerdydd bob nos.
Mae Kyle Jones yn ddigartref yng Nghaerdydd ac yn dweud ei fod wedi bod yn sefyllfa honno “on ac off” ers 28 o flynyddoedd.
“Dwi wedi cysgu mewn maes parcio, mewn drysau a hyd yn oed mewn bin mawr unwaith,” meddai.
“Mae rhywun yn dysgu i addasu, ymdopi a goroesi er mwyn gweld y diwrnod nesa’.”
Mae yna amryw ffactorau pam all rhywun fod yn ddigartref, meddai Lee Duncan, sy’n arbenigwr atal niwed gyda Byddin yr Iachawdwriaeth..
“Mae yna rai wedi gadael y ddalfa a’r fyddin…diffyg cartrefi newydd, yn enwedig yng Nghymru.
“Efallai bod nhw’n gaeth i sylweddau ac alcohol ac efallai bod perthynas wedi torri lawr hefyd,” ychwanegodd.
“Mae’r gymdeithas wedi ffaelu’r bobol yma a dyna lle ni’n dod mewn i lenwi’r bwlch.”
Dywedodd Andrew Connell, cynghorydd polisi Byddin yr Iachawdwriaeth, bod consensws gwleidyddol ynghylch beth sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â digartrefedd.
“Dyw ddim yn broblem o ewyllys neu ddeddfwriaeth ond adnoddau ydy’r broblem,” meddai.
“Mae’r sefyllfa cyn waethed a dwi’n ei gofio.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael a digartrefedd ac i ddarparu mwy o dai. Rydym wedi gosod targed heriol ac wedi darparu mwy o gyllid nag erioed yn ystod tymor y Senedd yma, gan gynnwys mwy na £1.4bn wedi ei fuddsoddi hyd yma.
"Y flwyddyn yma rydym yn buddsoddi bron i £220m i atal digartrefedd a chefnogaeth i ddarparu tai i geisio lleihau’r nifer o bobol sydd angen llety dros dro.”