Newyddion S4C

Tynnu Huw Edwards o bennod o Doctor Who

Huw Edwards tu allan i'r llys

Mae Huw Edwards wedi cael ei olygu allan o bennod o Doctor Who gan y BBC.

Cafodd y bennod o 2006 ei thynnu o iPlayer y llynedd ar ol i’r cyn ddarlledwr gyfaddef ei fod wedi bod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Roedd Huw Edwards i’w glywed yn y bennod ‘Fear Her’ gan y cyfarwyddwr Euros Lyn a oedd yn cynnwys darllediad o gemau Olympaidd 2012.

Mae’r bennod bellach ar gael unwaith eto ond mae llais yr actores Becky Wright i’w glywed yn lle llais Huw Edwards.

Mae’r bennod bellach hefyd yn cynnwys neges sy’n dweud: “Mae’r rhaglen hon wedi’i golygu ers iddi gael ei darlledu.

“Mae yna nifer o resymau pam y gallai rhaglen fod wedi cael ei golygu gan gynnwys materion cyfreithiol, cytundebol neu dechnegol.”

Cafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd ym mis Medi, am fod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.