Newyddion S4C

'Siom' aelod o Senedd Cymru wedi i’r heddlu ddweud ei bod hi’n 'gwneud drwg i enw da' tref

Janet Finch-Saunders.png

Mae aelod o Senedd Cymru wedi dweud ei bod hi wedi ei “siomi” gan ddatganiad gan yr heddlu yn awgrymu ei bod hi wedi gwneud drwg i enw da tref.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gareth Evans Heddlu Gogledd Cymru bod sylwadau Janet Finch-Saunders am Landudno yn “negyddol” a’n “siarad y dref i lawr”.

“Mae’n gwneud niwed i’r economi leol a’r gymuned ehangach,” medden nhw mewn datganiad a gyhoeddwyd brynhawn ddydd Mercher.

Roedd Janet Finch-Saunders, sy’n cynrychioli etholaeth Aberconwy, wedi bod yn trafod digwyddiadau yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llandudno.

Roedd Mrs Finch-Saunders wedi dweud bod 389 o ddigwyddiadau o’r fath wedi eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod ffigyrau Janet Finch-Saunders yn anghywir a’u bod nhw eisoes wedi cwrdd yn Grand Hotel y dref ddydd Gwener ddiwethaf i drafod y mater.

Dywedodd yr heddlu bod y ffigurau yn is na’r rheini a drafodwyd gan Janet Finch-Saunders ar ôl y cyfarfod a bod “lefelau cyffredinol troseddau ieuenctid hefyd wedi gostwng ers mis Tachwedd”.

‘Chwalu’

Wrth ymateb dywedodd Janet Finch-Saunders wrth Newyddion S4C ddydd Iau ei bod hi wedi ei “synnu” bod “datganiad o’r fath wedi ei gyhoeddi gan swyddogion sy’n gwasanaethu yn Heddlu Gogledd Cymru”.

“Ar ôl gweithio’n agos iawn gyda'r heddlu fel gwleidydd etholedig yma yn Llandudno am y 30 mlynedd diwethaf, mae’n hynod siomedig gweld gogwydd o’r fath yn cael ei roi ar gyfarfod llwyddiannus,” meddai.

“Yn ystod y cyfarfod codwyd nifer y digwyddiadau, ac roeddwn i wedi fy syfrdanu gan yr hyn a glywsom.”

Dywedodd ei bod hi wedi derbyn llythyr gan Gyngor Tref Llandudno ddiwedd mis Ionawr am ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol yn y dref.

“Mae hynny yn chwalu eu damcaniaeth bod y lefelau digwyddiadau wedi cyrraedd eu hanterth ym mis Hydref y llynedd,” meddai.

“Rydw i eisoes wedi ysgrifennu at y Prif Gwnstabl yn mynegi fy mhryderon am natur y datganiad ac edrychaf ymlaen at ffordd fwy cynhyrchiol o weithio wrth symud ymlaen yn y mater difrifol hwn.

“Y trigolion a pherchnogion busnes yn Aberconwy yw fy mhrif flaenoriaeth a byddaf yn parhau i herio’r holl awdurdodau sy’n gyfrifol am ddarparu camau gorfodi cadarn ar faterion fel hyn.

“Byddaf yn gwneud hynny hyd nes y gwelwn lefelau llawer is o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol yn ein tref brydferth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.