Newyddion S4C

Ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn

Perth Court Coed Duon

Mae’r heddlu yn ymchwilio i lofruddiaeth posib wedi marwolaeth “heb esboniad” dyn yn y cymoedd.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn 54 oed wedi marw yng Nghoed Duon, Caerffili ddydd Mawrth.

Cafodd dyn 39 oed ei arestio ond mae wedi ei rhyddhau a dywedodd yr heddlu na fydd unrhyw weithredu pellach yn ei erbyn.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi eu galw i gyfeiriad yn Llys Perth tua 1.15 ddydd Mawrth ar ôl adroddiad am aflonyddwch yno.

Fe aeth swyddogion yr heddlu a pharafeddygon o Wasanaethau Ambiwlans Cymru i’r fan a’r lle a darganfod y dyn 54 oed yn anymwybodol y tu mewn i'r eiddo.

Cadarnhaodd parafeddygon yn ddiweddarach fod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle. Mae ei berthnasau agosaf yn ymwybodol ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Michelle Chaplin: “Mae ein hymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth y dyn yn parhau ac ar hyn o bryd rydym yn trin y farwolaeth fel un heb ei esbonio.

“Cafodd dyn 39 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth fel rhan o’n hymholiadau cychwynnol.

“Fodd bynnag cafodd ei ryddhau o'r ddalfa yn ddiweddarach heb unrhyw gamau pellach i'w cymryd.

“Byddwn yn cynnal presenoldeb heddlu yn yr ardal wrth i ni barhau i geisio darganfod beth sydd wedi digwydd.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi unrhyw fanylion gan y cyhoedd a allai gynorthwyo'r ymchwiliad.”

Os oes gennych fanylion a allai fod o gymorth, gallwch gysylltu â Heddlu Gwent drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod log 2500044872.

Gallwch anfon neges uniongyrchol at yr heddlu ar Facebook neu X neu wneud adroddiad i'w gwefan a gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw hefyd ar 0800 555 111.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.