Newyddion S4C

Warren Gatland yn gadael ei swydd fel prif hyfforddwr Cymru

12/02/2025

Warren Gatland yn gadael ei swydd fel prif hyfforddwr Cymru

Wedi dyddiau o drafod a dyfalu, penderfyniad oedd bron yn anorfod.

Mae Warren Gatland wedi gadael ei swydd.

"I want to begin by saying a huge thank you to Warren Gatland for his time at the Welsh Rugby Union and all he's done and the way he's managed the last 48 hours."

Penderfyniad ar y cyd oedd ei ymadawiad yn ol Prif Weithredwr yr Undeb a does dim setliad ariannol.

Am y tair gem sy'n weddill yn y Chwe Gwlad Prif Hyfforddwr Caerdydd, Matt Sherratt fydd wrth y llyw ond dyw e ddim am wneud y swydd yn barhaol.

Er ei fethiant i godi'r tim yn ei ail gynnig wrth y llyw roedd ei gyfnod cyntaf rhwng 2008 a 2019 yn hynod lwyddiannus.

Enillodd timau Warren Gatland y Gamp Lawn yn 2008, 2012 ac yn 2019.

Cymru hefyd oedd yn bencampwyr yn 2013.

Roedd 'na berfformiadau da hefyd yng Nghwpan y Byd gan gyrraedd y rownd gynderfynol ddwywaith.

Ers dychwelyd ddwy flynedd yn ol, dyw pethau heb fod mor llewyrchus a thim Warren Gatland ond yn ennill chwe gem mewn 26.

Wedi'r golled ddiweddaraf yn yr Eidal ddydd Sadwrn doedd dim dewis ond ffarwelio a'r Prif Hyfforddwr.

"Pan oedd Gatland 'ma y tro cyntaf, roedd enwau mawr ganddo.

"Roedd tim hyfforddi gwahanol iawn ganddo hefyd.

"Yn anffodus, pan y'ch chi ar rediad fel hyn mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth yn glou."

"Mae'r ystadegau yn adrodd cyfrolau, wedi colli 14 o'r bron.

"Y diffyg trywydd, strwythur, a'r camau ymlaen i'r tim cenedlaethol roedd hi'n anorfod y bydde hyn yn digwydd.

"Roedd disgwyl i hwn ddigwydd wedi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ond mae'r ffaith bod hi yng nghanol ymgyrch yn gur pen.

"Mae'n embaras llwyr.

"Mae'n ddelwedd ofnadwy ar draws y byd o safbwynt rygbi Cymru."

Ar lawr gwlad yng Nghaerfyrddin ymateb cymysg oedd 'na i'r newyddion bod Gatland yn gadael.

"Mae'n drueni mewn ffordd achos mae wedi wneud yn dda dros Gymru gyda'r Grand Slams a'r Triple Crowns felly mae'n drist iawn."

"Sa i'n credu gallet ti ddodi'r bai i gyd ar Gatland.

"Mae lan i'r chwaraewyr i neud y job a fi'n credu bod nhw ddim 'di gelo."

"Mae wedi cael siawns go lew ac mae wedi colli lot o games nawr a fi'n credu bod yr amser lan."

"Efallai bydd wyneb ffres yn helpu, gobeithio!"

Yn ol awdur a blogiwr rygbi, mae 'na faterion dyrys i fynd i'r afael a nhw i'r gamp o'r lefel isaf at yr uchaf.

A chwestiynau anodd i reolwyr yr Undeb i'w hateb hefyd.

"Mae angen i'r arweinyddiaeth ystyried eu sefyllfa nhw o'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr lawr.

"Nhw benderfynodd i gadw Gatland ac ymwrthod a'i gynnig i ddiswyddo.

"Nhw benderfynodd yn y gaeaf i gadw fe 'mlaen eto.

"Chwech wythnos yn ddiweddarach ac mae pethau wedi newid yn llwyr a ni yn y cawlach yma lle mae 'na gwestiynau sylweddol i'w hateb."

Dyw'r Prif Weithredwr ddim yn difaru peidio diswyddo Gatland y llynedd.

Mae'r gwaith o benodi Cyfarwyddwr Rygbi Prif Hyfforddwr parhaol a chreu strategaeth i'r gem yn parhau.

Abi, you don't regret accepting Warren Gatland's resignation.

What would be the realistic target for the next Head Coach?

Will they be allowed to lose 14 consecutive games as well?

"That's a difficult question to answer.

"We'll set objectives with a coach and they look at the team.

"Part of that will be part of the recruitment process.

"By saying this is where we're at, the players you've got the challenges and the funding."

You know all that.

What realistically should the next Head Coach be looking to achieve?

A series victory in Japan? How many games in the autumn, for instance?

"I'll push back again and will work with the Head Coach on that.

"The important bit is to be in the top five in the world by 2029 and that will take time."

Gyda Chymru nawr yn 12fed yn y byd, eu safle isaf erioed mae mynydd i'w ddringo i gyrraedd y nod yna.

Mae nifer yn awchu i wneud y swydd meddai Abi Tierney heddiw wedi i'r drws gau'n glep ar ail gyfnod Gatland wrth y llyw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.