Newyddion S4C

Donald Trump eisiau i America 'gymryd drosodd' Gaza

12/02/2025

Donald Trump eisiau i America 'gymryd drosodd' Gaza

Rhai o bobl Gaza yn dychwelyd i weddillion eu cartefi.

Mae dyfodol yr ardal hon a'i phobl wedi cael cryn sylw gan Mr Trump sydd wedi dweud droeon ei fod am ei symud i wledydd cyfagos.

Un o'r gwledydd y rheiny yn ol Mr Trump bydde'r Iorddonen.

"You confident the King will back the plan for Palestinian people?"

Heddiw, roedd y Brenin Abdullah yn ymweld a'r Ty Gwyn.

Y cyfarfod cyntaf rhwng y ddau arweinydd.

"We're going to run it very properly and eventually have economic development on a large scale.

"We'll have lots of good things built there including hotels office buildings, housing and other things.

"We'll make that site into what it should be."

Mae'n amcangyfrif bod yr Iorddonen eisoes yn gartref i 2.5 miliwn o ffoaduriaid Palesteinaidd.

Mae'r Arlywydd am weld mwy yn ymgartrefu yno gan fygwth cosbau economaidd os nad yw'r wlad honno a'r Aifft yn cydymffurfio a'r cynllun ar gyfer Gaza.

"Byddai'r wlad yn dioddef yn ariannol ac yn economaidd os yw'r Unol Daleithiau yn tynnu'r arian yn ol.

"Eto, byddai'r Unol Daleithiau yn colli partner weddol pwysig yn yr ardal hynny os yw'r Iorddonen yn edrych am gefnogaeth o wledydd eraill.

"Gall hynny newid y cydbwysedd a'r dylanwad yn yr adral.

"Mae'n gweithio ar naill ffordd o'r stryd."

Dyma'r tri gwystl diweddaraf i gael ei rhyddhau o Gaza.

Dywed Israel y bydden nhw'n gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau y bydd y broses yn parhau.

Hynny ar ol i Hamas dweud y bydden nhw'n oedi rhyddhau mwy am y tro gan feio'r Israeliaid.

Dywed Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu y bydd y cadoediad yn dod i ben os nad ydy'r gwystlon yn cael eu dychwelyd erbyn dydd Sadwrn.

Mae'r Arlywydd Trump wedi awgrymu diddymu'r cadoediad ac mae 'na boeni ymhlith pobl Gaza am y sefyllfa.

Yn ol y dyn yma, mae pobl ofn ac yn prynu pethau hanfodol oherwydd eu bod yn meddwl y bydd y rhyfel yn ailddechrau.

Tra yn Israel...

"I feel anger and feel betrayed by my own government."

"Lan i nawr, mae'r cadoediad wedi bod yn bositif i'r ddau ochr.

"Mae dros 20 o wystlon wedi cael eu rhyddhau mewn i Israel a channoedd o carcharorion Palestinaidd wedi'u rhyddhau hefyd.

"Ond mae neb yn sicr bod y broses yn mynd i dal ymlaen y penwythnos yma.

"Mae pobl ar y ddau ochr am i'r broses i dal i fynd."

Ar ol dechrau addawol i'r cytundeb rhwng Israel a Hamas mae'r cadoediad ar y dibyn.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.