
Gohirio penderfyniad ar gynllun i adeiladu siop Aldi yn Llambed
Mae Cyngor Ceredigion wedi gohirio gwneud penderfyniad ar gynllun i adeiladu siop Aldi ar dir prifysgol Llambed am bum mis.
Mewn cyfarfod cynllunio ddydd Mercher, fe benderfynodd aelodau i ohirio'r cais yn dilyn argymhelliad i "ystyried y wybodaeth" cyn gwneud penderfyniad.
Roedd swyddogion Cyngor Ceredigion wedi argymell gwrthod y cynllun ar gyfer yr archfarchnad.
Byddai'r datblygiad yn cynnwys agor yr archfarchnad ar gaeau Prifysgol y Drindod Dewi Sant ar Ffordd Pontfaen a hefyd adfer pafiliwn rhestredig Gradd II.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe benderfynodd cynghorwyr gefnogi'r cynllun, gyda'r amod o osod cyfnod i gael ail-ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Ond dywedodd pennaeth cynllunio'r cyngor, Russell Hughes-Pickering, bod y cais wedi'i dynnu'n ôl o gyfarfod y cabinet ddydd Mercher oherwydd bod 'na wybodaeth ychwanegol wedi dod oddi wrth yr ymgeiswyr.
Dywedodd Mr Hughes-Pickering fod “angen gwneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi amser i swyddogion ystyried y wybodaeth”.
Byddai gohirio'r penderfyniad yn “amddiffyn aelodau rhag gwneud penderfyniad a allai gael ei alw i mewn”, ychwanegodd.
Fe gytunodd yr aelodau i ohirio'r cais, ac mae disgwyl iddo gael ei drafod nesaf yng nghyfarfod mis Mawrth y cabinet.
'Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth'
Ar hyn o bryd, mae’r safle yn cynnwys dau gae rygbi glaswellt sy’n cael eu defnyddio ar gyfer rygbi, criced, pêl-droed, hoci a gweithgareddau chwaraeon eraill gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r ymgeiswyr yn dweud y byddai'r datblygiad yn creu hyd at 40 o swyddi lleol newydd, yn ogystal â swyddi adeiladu tymor byr.
Ond dywedodd swyddogion y cyngor y byddai'n gwneud niwed i amgylchedd y pafiliwn Gradd II, ac nad oedd angen y siop fwyd yn Llanbedr Pont Steffan.

Byddai yn cael “effaith andwyol” ar siopau eraill, gan gynnwys siop bresennol Sainsbury's a Co-op y dref, medden nhw.
Dywedodd swyddogion hefyd fod disgwyl iddo gael “effaith andwyol sylweddol ar ganol trefi Aberaeron a Llandysul” a hefyd siop Costcutters Cei Newydd.
Mae 700 o bobol wedi arwyddo deiseb o blaid y cynllun a dywedodd asiant Aldo Rob Jones ei fod yn “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i Lambed.
Cawsant gefnogaeth gan y cynghorydd lleol Ann Bowen Morgan, a ddywedodd fod y cyngor tref a’r siambr fasnach wedi cefnogi’r cynlluniau.
Ychwanegodd bod Llanbedr Pont Steffan yn “ardal ddifreintiedig” ac y byddai pobl yn croesawu bwyd fforddiadwy ar garreg y drws.