88 milltir yr awr mewn ardal 20 mya: Cymdeithas Foduro'n condemnio gor-yrru
Cafodd un gyrrwr yng Ngogledd Cymru ei gofnodi'n gyrru ar gyflymder o 88 milltir yr awr mewn ardal lle roedd cyfyngiad o 20mya, yn ôl ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi.
Mae'r ystadegau'n cael eu cofnodi mewn adroddiad gan gymdeithas foduro yr RAC, sy'n galw ar Lywodraeth San Steffan i gymryd mesurau llymach yn erbyn modurwyr sy'n gor-yrru ar gyflymdra uchel.
Mae'r gymdeithas yn dweud fod rhai gyrrwyr "yn ymddwyn yn anhygoel o beryglus."
Roedd bron i hanner heddluoedd y DU (48%) wedi cofnodi gyrrwyr yn mynd ar gyflymdra o dros 90 milltir yr awr mewn ardaloedd cyfyngiad 30 mya. Y cyflymdra uchaf mewn ardal o'r fath oedd 122 mya, yn Swydd Efrog.
Y cyflymdra uchaf mewn ardal 30 mya yng Nghymru oedd 91 mya, gan yrrwr gafodd ei ddal yng Ngwent.
Dywedodd llefarydd ar ran yr RAC:"Mae'r ffigyrau yma'n pwysleisio pa mor beryglus ydi ymddygiad nifer fach o bobl sy'n rhoi pobl eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd mewn perygl.
"Cyflymdra yw prif achos marwolaethau ar ffyrdd y DU."
Mae ffigyrau gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn dangos fod 331 o bobl wedi marw mewn damweiniau ffyrdd yn 2023 lle roedd gyrru'n rhy gyflym yn cael ei ystyried yn ffactor.