Newyddion S4C

Matt Sherratt: Pwy yw hyfforddwr newydd rygbi Cymru?

12/02/2025
Matt Sherratt

Wedi i Warren Gatland adael ei swydd fel Prif Hyfforddwr Tîm Rygbi Dynion Cymru, daeth cadarnhad ddydd Mawrth mai Matt Sherratt fydd yn cymryd yr awenau am weddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Ond pwy yw Matt Sherratt?

Mae Matt Sherratt yn gyn athro sydd yn dod o Weston-super-Mare yn ne orllewin Lloegr.

Un peth sy’n werth nodi yw mai Sherratt yw'r dyn cyntaf o Loegr i fod yn brif hyfforddwr ar Gymru.

Ond mae’n deg dweud ei fod yn hen gyfarwydd â rygbi yng Nghymru, wedi iddo fod yn hyfforddi gyda’r rhanbarthau bron yn ddi-dor ers 2016.

Fe ddechreuodd ei yrfa yn y byd rygbi gyda’r RFU yn Lloegr fel hyfforddwr datblygu, cyn symud ymlaen i hyfforddi gydag academi clwb Caerwrangon yn 2006. 

Ar ôl pum mlynedd yno, fe dreuliodd bum mlynedd yn gweithio fel hyfforddwr yr olwyr yng nghlwb Bryste, gan weithio gyda Danny Wilson.

Y cam nesaf i Sherratt oedd ymuno â Wilson yng Nghaerdydd yn 2016. Treuliodd dymor fel hyfforddwr yr ymosod gyda'r clwb ym Mharc yr Arfau.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe gafodd secondiad i dîm hyfforddi Cymru yn 2016 a 2017, gan weithio gydag is-reolwr presennol Cymru, Rob Howley, tra bod Warren Gatland ar ddyletswydd gyda Llewod Prydain ac Iwerddon.

Yn nhymor 2017, fe symudodd i’r Gweilch fel hyfforddwr yr olwyr dan Steve Tandy ac Allen Clarke. Wedi diswyddiad Clarke, cafodd ei benodi’n Brif Hyfforddwr dros dro yn Stadiwm Swansea.com tan 2020.

 

Image
Fe treuliodd Matt Sherrat
Roedd Matt Sherratt yn ran o dîm hyfforddi Cymru yn 2016 a 2017 (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Yna, fe symudodd Sherratt, sy’n cael ei adnabod fel ‘Jockey’, yn ôl dros y ffin i ymuno â’i gyn glwb Caerwrangon am flwyddyn, fel hyfforddwr yr olwyr.

Ond yn 2021, daeth yn ôl i dîm hyfforddi Caerdydd. Wedi i Dai Young gael ei ddiswyddo yn 2023, cafodd ei benodi’n Brif Hyfforddwr ar y rhanbarth fis Awst 2023.

Camu lan

Roedd ei dymor cyntaf wrth y llyw yn un cymysg, gyda’r tîm yn gorffen yn 12fed yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (PRU). Er hynny, roedd yna sawl perfformiad cofiadwy yn ystod y tymor wrth i’r tîm chwarae gyda dull ymosodol a chyffrous oedd yn cael ei werthfawrogi gan dorfeydd bywiog y brifddinas.

Ac mae cynnydd i’w weld yng nghanlyniadau’r tîm eleni, gyda Chaerdydd yn bumed yn y PRU wedi 10 gêm.

Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney wedi dweud y bydd Sherratt yn y rôl am y tair gêm sy’n weddill yn y Chwe Gwlad eleni, yn erbyn Iwerddon, Yr Alban a Lloegr, cyn dychwelyd i Rygbi Caerdydd.

Dywedodd Ms Tierney hefyd fod gan Sherratt yr hawl i benderfynu pwy fydd yn ei dîm hyfforddi gyda Chymru am weddill y gystadleuaeth.

Image
Matt Sherratt
Mae Matt Sherratt wedi bod yn brif rheolwr ar Rygbi Caerdydd ers Awst 2023 (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Ar hyn o bryd, Rob Howley, Mike Forshaw, Jonathan Humphreys, Neil Jenkins ac Adam Jones sydd wedi bod yn rhan o dîm Gatland.

Fe ychwanegodd y byddai’r Prif Hyfforddwr parhaol yn cael ei benodi dros yr haf, cyn taith y tîm i Japan.

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth, dywedodd Sherratt na fyddai yn ystyried ymgeisio am y swydd yn barhaol.

"Mae'n teimlo ychydig fel y cyfnod cyn i mi ddechrau gyda Chaerdydd. Roedden nhw yn isel. Cael y meddylfryd yn iawn fydd y peth pwysicaf.”

"Fe fydd hi'n anodd newid pethau'n dactegol. Ond fe allwn ni gael newid meddylfryd. Does dim ots pa bethau tactegol rydych chi'n eu rhoi ar y cae, os oes diffyg cred neu ofn.

"Y cam cyntaf yw bod y chwaraewyr yn wirioneddol gyffrous i fynd ar y cae."

Pwy fydd yr hyfforddwr yn yr hirdymor?

Mae sawl enw wedi eu crybwyll fel ymgeiswyr posib ar gyfer y swydd yn barhaol, gyda chyn hyfforddwr Awstralia, Michael Cheika, hyfforddwr Glasgow Warriors, Franco Smith ac is-reolwr Iwerddon, Simon Easterby, ymhlith y ceffylau blaen.

Mae Pat Lam, Steve Tandy, Shaun Edwards a Brad Mooar hefyd ymhlith yr enwau sydd wedi eu crybwyll.

Image
Cymru
Mae Franco Smith, Simon Easterby a Michael Cheika ymhlith yr enwau sydd wedi eu crybwyll fel ymgeiswyr bosib i swydd hyfforddwr Cymru (Lluniau: Asiantaeth Huw Evans)

(Lluniau: Asiantaeth Huw Evans)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.