Dyn yn pledio'n euog i ddynladdiad dyn 22 oed ar noson allan yn Llanelli
Mae dyn 40 oed wedi cyfaddef dynladdiad dyn 22 oed ar ôl ei daro ddwywaith tra ar noson allan yn Llanelli.
Plediodd Jason Thomas yn euog i ddynladdiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun.
Achosodd anafiadau angheuol i ben Liam Morgan-Whittle ar nos Sul, 25 Mawrth, 2023.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i gyfeiriad yn Stryd Robinson yn oriau mân y bore, lle’r oedd parafeddygon yn rhoi cymorth i Morgan Whittle.
Cafodd Thomas ei arestio ar amheuaeth o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol.
Roedd y ddau yn adnabod ei gilydd drwy ffrind arall, a chafodd yr heddlu wybod eu bod wedi bod mewn anghydfod a wnaeth arwain at y digwyddiad.
Bu farw Morgan Whittle yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty.
Cafodd Thomas ei gyhuddo o ddynladdiad ac fe blediodd yn euog ar y diwrnod pan oedd ei achos llys i fod i gychwyn.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 3 Mawrth.
Prif lun: Liam Morgan-Whittle (gan Heddlu Dyfed Powys)