Penodi Matt Sherratt yn brif hyfforddwr Cymru am weddill y Chwe Gwlad
Mae Matt Sherratt wedi ei benodi’n brif hyfforddwr rygbi Cymru tan ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Fe fydd Sherratt, sydd yn brif hyfforddwr ar ranbarth Rygbi Caerdydd, yn camu i mewn dros do ar gyfer y tair gêm olaf yn y bencampwriaeth.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cadarnhad gan Undeb Rygbi Cymru bod Warren Gatland yn gadael ei swydd ar ôl i’r tîm golli 14 gêm yn olynol.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney mai dros dro yn unig bydd Matt Sherratt yn y swydd a hynny tan ddiwedd y Chwe Gwlad.
Matt Sherratt yw'r dyn cyntaf o Loegr i fod yn brif hyfforddwr ar Gymru.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1889307699411918852
Ychwanegodd Abi Tierney y byddai'r Undeb yn penodi prif hyfforddwr parhaol cyn taith Cymru i Japan yn yr haf.
Dywedodd Abi Tierney: "Mae’r Undeb a Warren wedi cytuno bod gwneud y newid yma – ar yr amser yma – y peth iawn i’w wneud i’r garfan am weddill y Chwe Gwlad eleni.
"Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Warren am yr hyn y mae wedi’i wneud dros ein gêm yma yng Nghymru.
"Bydd Matt Sherratt yn cymryd yr awenau dros dro ar gyfnod allweddol ac mae’n adrodd cyfrolau ei fod wedi derbyn y gwahoddiad heb oedi am eiliad.
"Mae hyn hefyd yn arwydd clir o’n gêm broffesiynol yma yng Nghymru yn cefnogi ein tîm cenedlaethol.
"Ein bwriad fel Undeb yw penodi olynydd llawn amser i Warren Gatland cyn y daith i Japan dros yr haf pan fydd y tîm yn chwarae dwy gêm brawf yno."
Fe fydd Matt Sherratt yn dychwelyd i hyfforddi Caerdydd yn dilyn Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.
Mae Sherratt, ddaeth yn Brif Hyfforddwr Caerdydd yn 2023, wedi cael profiad hyfforddi gyda’r Gweilch, Bryste a Chaerwrangon.
Fe fydd yn wynebu Iwerddon yn ei gêm gyntaf wrth y llyw ar ddydd Sadwrn 22 Chwefror, cyn gemau yn erbyn Yr Alban yng Nghaeredin a gêm gartref yn erbyn Lloegr ar ddiwedd y bencampwriaeth.