Warren Gatland wedi gadael ei swydd fel prif hyfforddwr Cymru
Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gadael ei swydd yn dilyn rhediad o 14 colled yn olynol i'r tîm cenedlaethol.
Daw hyn ar ôl i'r tîm golli eu dwy gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.
Mae Matt Sherratt wedi ei benodi’n brif hyfforddwr newydd ar Gymru tan ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Roedd disgwyl i Warren Gatland adael ar ddiwedd y bencampwriaeth, ond fe fydd yn gadael ar unwaith.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1889307583456133439
Roedd dan gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru hyd at Gwpan y Byd 2027.
Mae Cymru'n wynebu tair gêm anodd yng ngweddill y Chwe Gwlad - gan ddechrau gyda'r Iwerddon yng Nghaerdydd, gêm yng Nghaeredin yn erbyn yr Alban, a gorffen y gystadleuaeth yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd.
'Tymor heriol'
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Warren Gatland: "Hoffwn ddioch i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru am eu ffydd yn ystod tymor heriol iawn y llynedd gan gynnig amser i mi wella pethau eleni.
"Ry’n ni wedi gweithio’n arbennig o galed ac wedi gwneud popeth i newid pethau er gwell – ond nawr yw’r amser iawn am newid."
Ychwanegodd Gatland: "Dyma ddiwedd pennod arall ond byddaf wastad yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd – gan gynnwys cefnogwyr, chwaraewyr ac yn enwedig fy nhîm rheoli a fy staff. ‘Roedd eu cyfraniad yn allweddol yn y llwyddiannau brofon ni gyda’n gilydd ar hyd y daith.
"Hoffwn ddymuno’r gorau i fy olynydd hefyd – a hoffwn ddiolch o galon i gefnogwyr rygbi Cymru."
Tair Camp Lawn ac un Llwy Bren
Dyma oedd ail gyfnod Warren Gatland wrth y llyw wedi iddo gael ei benodi'n gyntaf i'r swydd ym mis Tachwedd 2007.
Ddeufis cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023 cafodd Gatland ei benodi i arwain Cymru am yr eildro.
Roedd unrhyw obeithion o welliant dan ei arweinyddiaeth wedi diswyddiad Wayne Pivac yn deilchion pan orffennodd y crysau cochion yn y pumed safle yn y gystadleuaeth.
Yn yr un cyfnod roedd anghydfod rhwng y chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru dros gytundebau a bu bron iddyn nhw streicio a pheidio chwarae yn erbyn Lloegr.
Roedd y problemau yn parhau yn yr Undeb ac roedd hynny yn gysgod ar y tîm rhyngwladol ar drothwy Cwpan y Byd 2023.
Yn cael ei chynnal yn Ffrainc, roedd Gatland wedi mynd â'r garfan i'r Swistir a Thwrci i baratoi mewn gwres eithafol ac amodau anodd.
Roedd hynny wedi ymddangos fel ei fod wedi gweithio wrth i Gymru frwydro'n galed i guro Ffiji yng ngêm gyntaf y grŵp mewn cystadleuaeth hynod o gorfforol.
Aeth Cymru ymlaen i roi crasfa i Awstralia ac ennill yn erbyn Portiwgal a Georgia i orffen ar frig y grŵp.
Ond daeth unrhyw obeithion o godi'r tlws i ben yn y rownd gyn-derfynol gyda cholled yn erbyn yr Ariannin.
O ddrwg i waeth
Fe aeth Cymru o berfformiadau campus Cwpan y Byd i embaras llwyr yn y Chwe Gwlad ar ddechrau 2024, wrth iddyn nhw golli pob un o’u gemau.
Fe wnaeth Gatland gynnig ei ymddiswyddiad i URC wedi'r golled yn erbyn yr Eidal, ond cafodd hynny ei wrthod gan y Prif Weithredwr Abi Tierney.
Parhau felly wnaeth Gatland yn y swydd, ac ar daith i Awstralia yn yr haf fe gollodd Cymru i'r Wallabies ddwywaith, ond fe ddaeth y fuddugoliaeth gyntaf ers bron i flwyddyn yn erbyn un o glybiau’r wlad, y Queensland Reds.
Er i rai chwaraewyr profiadol ddychwelyd i’r garfan yn ystod yr Hydref, roedd y canlyniadau siomedig yn parhau.
Fe lwyddodd Ffiji i ennill yng Nghaerdydd am y tro cyntaf yn eu hanes, cyn i Awstralia a De Affrica fwynhau buddugoliaethau swmpus.
Penderfynodd yr Undeb gynnal adolygiad i mewn i berfformiad y tîm yn dilyn ymgyrch aflwyddiannus yr Hydref, ond penderfynodd Abi Tierney y byddai Gatland yn aros, gyda’r cyfarwyddwr rygbi gweithredol, Nigel Walker, yn camu o’r neilltu.
Ond yn dilyn perfformiadau di-fflach ym Mharis a Rhufain yn y Bencampwriaeth eleni, fe benderfynodd yr Undeb mai digon yw digon.
Lluniau: Asiantaeth Huw Evans