Rygbi: Dreigiau yn penodi Filo Tiatia fel Prif Hyfforddwr
Mae Filo Tiatia wedi’i benodi’n Brif Hyfforddwr ar y Dreigiau.
Mae cyn chwaraewr y Crysau Duon wedi bod yn hyfforddwr ar amddiffynwyr y tîm ers dechrau’r tymor.
Ond yn dilyn ymadawiad yr hyfforddwr Dai Flanagan fis Tachwedd y llynedd, cafodd Tiatia ei benodi’n brif hyfforddwr dros dro.
Un gêm allan o wyth mae’r rhanbarth wedi llwyddo i’w hennill yn y cyfamser, a hynny yn erbyn Newcastle Falcons fis Rhagfyr, yng Nghwpan Her Ewrop.
Mae’r clwb ar waelod tabl y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar hyn o bryd, ar ôl un fuddugoliaeth yn eu 10 gêm gyntaf.
Ddydd Mawrth, daeth y cyhoeddiad bod bwrdd y rhanbarth wedi penderfynu penodi Tiatia, 53 oed, yn y brif swydd yn Rodney Parade ar gytundeb fydd yn para sawl blwyddyn.
'Braint'
Mae’r clwb yn gobeithio penodi is-hyfforddwr profiadol i gydweithio gyda Tiatia maes o law.
“Rwyf yn hapus iawn fy mod wedi cael fy mhenodi’n Brif Hyfforddwr Clwb Rygbi’r Dreigiau ac yn gyffrous i wynebu’r her sydd o’n blaenau,” meddai Tiatia.
“Mae hi wedi bod yn fraint cael gweithio yn rygbi Gwent drwy gydol y tymor a nawr i arwain y clwb yma wrth i ni edrych tuag at ddyfodol disglair.
“Mae gennym ni garfan dalentog o chwaraewyr, gyda nifer o chwaraewyr ifanc lleol yn dod trwy ein system, a thîm hyfforddi rydw i yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y tymhorau i ddod.”
'Arloeswr'
Mae Tiatia wedi gweithio fel is-hyfforddwr i dîm cenedlaethol Japan, yn ogystal â bod yn brif hyfforddwr ar ddau dîm yn y wlad, Toyota Verblitz a Sunwolves.
Wrth gydnabod nad yw canlyniadau'r tîm eleni wedi cyrraedd y safon yr oedd cefnogwyr yn ei ddymuno, dywedodd Cadeirydd y Dreigiau David Wright mai penodi Tiatia oedd y "penderfyniad cywir er budd hirdymor Clwb Rygbi’r Dreigiau."
Dywedodd Cadeirydd y Dreigiau, David Wright: “Mae gan Filo lot fawr o brofiad ac mae’n arloeswr, yn arweinydd, sydd â hanes o ddatblygu chwaraewyr, hyfforddwyr, a gwella carfanau.
“Felly, rydym wedi cymryd ein hamser i gwblhau adolygiad llawn a gwneud y penderfyniadau cywir er budd hirdymor Clwb Rygbi’r Dreigiau.
“Mae Filo wedi ymrwymo’n llwyr i’r rôl, wedi’i gyffroi gan yr her sydd o’i flaen, ac mae’r gwaith y mae eisoes wedi’i wneud oddi ar y cae wedi creu argraff arnom ni.”