Trump yn galw am ddiwedd ar gadoediad Gaza wrth fygwth Hamas
Mae Arlywydd America, Donald Trump wedi dweud y dylid dod â chadoediad Gaza i ben os na chaiff gweddill y gwystlon Israelaidd eu rhyddhau gan Hamas erbyn hanner dydd, ddydd Sadwrn.
Dywedodd Mr Trump y byddai "holl bwerau uffern" yn cael ei ryddhau oni bai bod Hamas yn rhyddhau'r gwystlon.
Daw ei sylwadau wedi i Hamas gyhoeddi eu bod yn oedi'r broses o'u rhyddhau. Maent yn cyhuddo Israel o dorri amodau'r cadoediad.
Ychydig cyn iddo wneud ei sylwadau, roedd Mr Trump wedi ailadrodd ei farn na fyddai gan Balestiniaid yr hawl i ddychwelyd i Gaza. Mae hyn yn groes i lefarwyr yn ei weinyddiaeth oedd wedi wfftio'r awgrym yn gynharach.
Mae prif weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi dweud y bydd ei wlad yn "gweithredu'n ddi-baid" i sicrhau rhyddid i'r gwystlon sy'n parhau yn Gaza, yn dilyn oedi'r cadoediad.
Roedd 17 gwystl yn weddill oedd fod i gael eu rhyddhau fel y cam cyntaf yn y broses o dan amodau'r cadoediad. Mae Israel yn dweud bod wyth o'r rhain bellach wedi marw.
Yn ddiweddarach ddydd Mawrth bydd Trump yn cyfarfod â Brenin Abdullah o Wlad yr Iorddonen. Mae'r Arlywydd wedi awgrymu y gallai atal cymorth i Wlad yr Iorddonen a'r Aifft os nad yw'r ddwy wlad yn cytuno gyda'i gynllun i reoli Gaza ag ailgartrefu poblogaeth y diriogaeth yn y ddwy wlad honno.