Seren Michelin i fwyty yng Nghaerdydd am y tro cyntaf
11/02/2025
Mae seren Michelin wedi ei rhoi i fwyty am y tro cyntaf yng Nghaerdydd.
Bwyty Gorse sydd wedi ei lleoli ym Mhontcanna sydd wedi derbyn y wobr.
Tom Waters yw’r cogydd, dyn sydd â phrofiad o weithio yn rhai o fwytai mawr Lloegr fel The Square a bwyty The Fat Duck o dan arweiniad Heston Blumenthal.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yn ystod seremoni ym Manceinion nos Lun.
Cafodd 22 o fwytai eraill seren Michelin am y tro cyntaf hefyd gan gynnwys naw yn Llundain, tri yn Iwerddon a dau yn yr Alban.
Yn ogystal cafodd bwyty figan seren Michelin am y tro cyntaf erioed.