Heddlu’n ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff ger priffordd yng Nghaerdydd
Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl dod o hyd i gorff dyn ger priffordd yng Nghaerdydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod corff y dyn wedi ei ddarganfod am 10.30 ddydd Sul lle mae Ffordd Lecwydd yn mynd o dan yr A4232.
Mae’r dyn wedi ei adnabod ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw gyswllt ag unrhyw ymchwiliad i unrhyw un oedd ar goll.