Keir Starmer: Y Prif Weinidog cyntaf yn y gorllewin i gymryd prawf HIV
Syr Keir Starmer yw'r prif weinidog cyntaf yn y gorllewin i wneud prawf HIV a hynny meddai mewn ymgais i geisio chwalu'r stigma o amgylch y clefyd.
Ar ddechrau Wythnos Profi HIV fe wnaeth Prif Weinidog y DU gymryd prawf cartref yn 10 Downing Street.
Roedd y gantores Beverley Knight, sydd yn byw gyda HIV a prif weithredwr elusen HIV The Terrence Higgins Trust, Richard Angell hefyd yn bresennol.
Dywedodd Starmer ei fod yn “bwysig iawn" gwneud y prawf a'i fod yn "falch iawn o allu ei wneud."
"Mae’n hawdd iawn, yn gyflym iawn.
“Dylwn ni geisio annog arweinwyr eraill i wneud yr un peth oherwydd mae'n bwysig iawn, mae'n hawdd, mae'n gyfleus ac mae'n llawer gwell gwybod.”
Wrth i Richard Angell ddweud ei fod yn credu mai Starmer oedd prif weinidog cyntaf un o wledydd yn y G7, Ewropeaidd neu Nato i wneud y prawf, dywedodd Syr Keir ei fod “wedi synnu”.
Mae tua 107,000 o bobl yn byw gyda HIV yn y DU, ac mae'n debyg nad ydi tua 4,700 yn gwybod eu bod yn byw gyda'r clefyd.
Yn ystod Wythnos Profi HIV, sy'n rhedeg o 10 i 17 Chwefror, gall aelodau'r cyhoedd archebu un o 20,000 o brofion cartref cyfrinachol am ddim
Mae'r prawf yn darparu canlyniad mewn 15 munud.
'Defnyddio fy llais'
Mae Syr Keir wedi addo dod a throsglwyddiadau newydd o HIV yn Lloegr i ben erbyn 2030, ac ar Ddiwrnod aids y Byd y llynedd cyhoeddodd £27 miliwn ar gyfer rhaglen brofi ehangach yn adrannau brys y GIG.
Dywedodd Ms Knight: “Mae byw gyda HIV heddiw yn bell o'r profiad a ddioddefodd fy niweddar ffrind gorau Tyrone yn gynnar yn y 2000au.
“Gall pobl sy’n byw gyda HIV nawr wybod eu statws yn hawdd, ac maen nhw'n gallu cael mynediad at driniaeth effeithiol a byw bywyd hir, iach.
“Er cof am Ty, rwy’n defnyddio fy llais ochr yn ochr â’r prif weinidog i wneud yn siŵr bod pawb yn ymwybodol o ba mor hawdd yw hi i wneud prawf.
“Mae angen i bobl glywed y neges hollbwysig bod modd i ni ddod â’r epidemig hwn i ben unwaith ac am byth.”