Newyddion S4C

Gino D'Acapmo: Honiadau fod y cogydd wedi gwneud sylwadau rhywiol amhriodol

Gino D'Acampo

Mae sawl dynes wedi honni bod y cogydd teledu Gino D'Acampo wedi gwneud sylwadau rhywiol amhriodol amdanynt dros gyfnod o 12 mlynedd.

Fe wnaeth ymchwiliad gan ITV News ganfod bod "dwsinau" o honiadau o gamymddwyn yn erbyn y cogydd 48 oed ar raglenni teledu roedd yn gweithio arno.

Cafodd ei ymddygiad ei ddisgrifio'n "annerbyniol" gan y rhai oedd yn gwneud yr honiadau, meddai ITV.

Mae Mr D'Acampo yn "gwadu'n llwyr" yr honiadau yn ei erbyn gan ychwanegu "nad oedd hynny yn naturiol" iddo a bod yr honiadau hynny yn "ofidus iawn."

Mae Gino D'Acampo yn enwog am fod yn gogydd teledu ar raglenni fel Good Morning Britain. Mae hefyd wedi ymddangos ar gyfres I'm A Celebrity... Get Me Out of Here.

Mae'r cogydd hefyd wedi cyflwyno sioe ITV, Family Fortunes, ac wedi cyflwyno nifer o'i raglenni coginio ei hun.

Yr honiadau

Roedd un ddynes wedi cyhuddo Mr D'Acampo o wneud sylwadau rhywiol iddi hi tra eu bod yn gweithio ar set cylchgrawn yn 2011.

Dywedodd dynes arall ei bod hi wedi ei weld yn bygwth cyd-weithiwr ifanc yn 2019, gyda dynes arall yn ei gyhuddo o wneud sylwadau rhywiol tra'n gweithio ar gyfres Gordon, Gino And Fred’s Road Trip yn 2018.

Dywedodd adroddiad ITV bod Objective Media Group, wnaeth gynhyrchu'r rhaglen honno, yn ymwybodol o'r pryderon gydag e-bost a gafodd ei weld gan ITV yn dweud bod ymddygiad D'Acampo yn "annerbyniol a phryderus".

Mae Objective Media Group yn dweud eu bod "yn cymryd lles a lles ei holl staff cynhyrchu a thimau yn hynod o ddifrifol” ac yn darparu “hyfforddiant ymddygiad" i'r rhai sydd yn cymryd rhan yn eu rhaglenni.

Dywedodd MultiStory Media, a gynhyrchodd raglen Gino’s Italian Express, y byddai’n “amhriodol mynd i fanylion pryderon unigol” ond ei fod yn “adolygu’r pryderon a godwyd, yr hyn a oedd yn hysbys ar y pryd a pha gamau a gymerwyd”.

Ychwanegodd: “Byddwn hefyd yn edrych ar unrhyw bryderon newydd sydd wedi dod i’r amlwg".

Dywedodd Multistory Media nad ydyn nhw wedi gweithio gyda D'Acampo ers chwe blynedd.

Mewn datganiad i ITV News, dywedodd Studio Ramsay, a gynhyrchodd y sioe Gino’s Italian Family Adventure a chyd-cynhyrchwyr  Gordon, Gino And Fred’s Road Trip yn 2018, eu bod yn cymryd “pob honiad o ymddygiad amhriodol a chamymddwyn yn y gweithle o ddifrif, yn ymchwilio’n brydlon, ac yn cymryd camau priodol pan fydd angen”.

'Gwadu'

Mewn ymateb i’r honiadau, dywedodd tîm cyfreithiol Mr D’Acampo: “Mae ITV News wedi dweud wrthyf fod honiadau wedi’u gwneud amdanaf yn ymddwyn yn amhriodol, mae rhai yn dyddio’n ôl dros ddeng mlynedd.

“Nid wyf erioed wedi cael gwybod am y materion hyn o’r blaen ac mae’r honiadau’n cael eu gwadu’n llwyr.

"Ni fyddwn yn gwneud unrhyw beth yr oeddwn yn meddwl y byddai'n cynhyrfu neu'n peri gofid i unrhyw un. Yn syml, nid yw hyn yn fy natur i. Nid wyf yn adnabod y fersiwn o'r digwyddiadau sy'n cael eu hadrodd.

“Nid yn unig nad yw’r honiadau hyn erioed wedi’u cael eu nghyflwyno i fi o'r blaen, rwyf wedi cael fy nghefnogi dro ar ôl tro gan swyddogion gweithredol ar y lefel uchaf.

"Cefais fy nghomisiynu i ymddangos ar raglenni yn ystod y cyfnod sydd bellach yn cael ei awgrymu fy mod wedi ymddwyn yn amhriodol.

Ychwanegodd: “Rwy’n dad, yn ŵr ac wedi gweithio gyda dros 1,500 o bobl ar tua 80 o gynyrchiadau yn fy ngyrfa, rhywbeth yr wyf wedi bod mor falch ohono. 

"Rwy’n cymryd materion o’r fath o ddifrif ac mae’r awgrym fy mod i wedi gweithredu mewn ffordd amhriodol yn peri gofid mawr.”

Dywedodd ei dîm cyfreithiol: “Mae Mr D’Acampo yn gwadu’n bendant yr honiadau hyn o ymddygiad rhywiol amhriodol.

“Hyd yr ydym ni yn gwybod, ni chafodd unrhyw honiadau o’r fath ei wneud yn ei erbyn mewn perthynas â’i amser ar Gino’s Italian Express a dyma’r tro cyntaf, chwe blynedd yn ddiweddarach, iddo gael gwybod am y digwyddiadau honedig hyn, ac nid yw’n eu derbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran ITV mai “cwmnïau cynhyrchu sydd â’r prif gyfrifoldeb am ddyletswydd gofal pawb y maen nhw’n gweithio gyda nhw, ar y sgrin ac oddi ar y sgrin, wrth wneud sioeau”, gan ddisgrifio’r ymddygiad yn “amhriodol ac annerbyniol”.

Ychwanegodd y llefarydd: “Ni chafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw (yr honiadau) eu hadrodd i ITV ar y pryd. Lle mae materion wedi’u codi gydag ITV, mae camau wedi’u cymryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.