Newyddion S4C

Pris tocynnau tren dwy ffordd i godi 6% y flwyddyn nesaf

06/02/2025
Trenau

Fe fydd y gost o deithio ar rai trenau'n cynyddu 6% y flwyddyn nesaf meddai Llywodraeth Cymru.

Bydd prisiau tocynnau unffordd unrhyw adeg o'r dydd yn cynyddu 3%, a phrisiau tocynnau tymor saith diwrnod yn cynyddu 3.5%.

Bydd prisiau tocynnau dwyffordd unrhyw adeg o'r dydd a phrisiau tocynnau dwyffordd ar adegau tawel yn cynyddu 6%.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, na fyddai'r newyddion yn cael ei groesawu gan deithwyr ar y cledrau.

Mewn datganiad, dywedodd: "Rydym yn deall na fydd teithwyr yn croesawu hyn, ond rydym wedi ceisio cadw'r cynnydd mor isel â phosibl. 

"Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad yw'r mwyafrif cynyddol o deithwyr bellach yn defnyddio'r cynhyrchion hyn a reoleiddir (regulated products). 

"Y cynhyrchion hyn yw gweddillion y rheilffordd breifat a sefydlwyd i sicrhau na allai gweithredwyr preifat yrru cynnydd enfawr mewn prisiau tocynnau i sicrhau cymaint o elw â phosibl ar draul teithwyr y tu hwnt i reolaeth Llywodraethau. 

"Gyda gwaith i ddiwygio’r rheilffyrdd yn mynd rhagddo, rwy’n gobeithio y bydd gwasanaethau rheilffordd yn dychwelyd i'r sector cyhoeddus a bydd yr angen am brisiau tocynnau trên a reoleiddir yn dod i ben, gyda gweithredwyr y sector cyhoeddus yn blaenoriaethu gwerth am arian i deithwyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.