Cwymp sylweddol yng ngwerthiant ceir Tesla yn Ewrop
Mae ceir Tesla wedi gweld cwymp sylweddol mewn gwerthiant yn rhai o wleddydd Ewrop.
Fe syrthiodd gwerthiant y ceir trydan 12% yn y DU ym mis Ionawr, 63% yn Ffrainc, 44% a 38% yn Sweden a Norwy, a 42% yn yr Iseldiroedd.
Dywedodd awdurdod cerbydau Kraftfahrt-Bundesamt yr Almaen ddydd Mercher fod gwerthiant ceir Tesla, sy'n berchen i Elon Musk, wedi gostwng bron i 60% ym mis Ionawr o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Mae Elon Musk wedi bod yn ffigwr amlwg yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i’w gefnogaeth i’r Arlywydd Donald Trump.
Gwariodd Musk, dyn mwyaf cyfoethog y byd, $250m ar ymgyrch Donald Trump ac mae bellach wedi ei benodi yn arweinydd Adran Effeithlonrwydd y Llywodraeth (DOGE).
Dywedodd prif weithredwr cwmni Electrifying.com sy’n gwerthu ceir trydan yn y DU ei fod yn credu bod gwleidyddiaeth Elon Musk wedi gwneud Tesla yn llai poblogaidd gyda phrynwyr ceir yn Ewrop.
“Mae dylanwad Musk ar y brand wedi pegynnu barn,” meddai Ginny Buckley.
“Mae wedi annog llawer o brynwyr i edrych i rywle arall.
“Gyda dros 130 o fathau o geir trydan ar gael yn y DU - o gymharu â dim ond 25 yn 2020 - mae yna gystadleuaeth ffyrnig ac mae Tesla yn dechrau dod dan bwysau.”
Dywedodd prif weithredwr y grŵp ymchwil New AutoMotive, Ben Nelmes, wrth Reuters nad oedd yn credu bod problemau Tesla yn deillio o weithredoedd Musk.
Y methiant meddai oedd nad oedd Tesla wedi lansio model newydd ers y Model Y yn 2020, tra bod gan gystadleuwyr, gan gynnwys gwneuthurwyr cerbydau trydan Tsieineaidd, geir newydd ar y farchnad.
“Nid yw hyn oherwydd barn Musk na barn modurwyr Prydain am Musk - fe wnaethon nhw roi’r gorau i arloesi ar ôl y Model Y,” meddai.