Donald Trump yn oedi cyn cyflwyno tariffau ar fewnforion Canada a Mecsico
Mae Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd yn oedi cyn cyflwyno tariffau ar fewnforion Canada a Mecsico.
Fe wnaeth Donald Trump gytuno i oedi tariffau arfaethedig yr UDA ar fewnforion o Ganada am oleiaf 30 diwrnod ar ddydd Llun, 3 Chwefror, meddai Prif Weinidog Canada, Justin Trudeau.
Daeth y cyhoeddiad ar blatfform X gan Trudeau, ychydig oriau yn unig ar ôl i Trump a Phrif Weinidog Mecsico, Claudia Sheinbaum, gyhoeddi ei fod am oedi tariffau arfaethedig Mecsico am fis hefyd.
Mae’r penderfynid wedi ei wneud, medden nhw, ar ôl i’r ddwy wlad gytuno i gymryd camau i atal masnachu’r opioid angheuol, fentanyl, i’r UDA.
Roedd Trump wedi dweud ar ddydd Sadwrn y byddai’n gosod tariff 25% ar nwyddau o Fecsico a Chanada, a thariff 10% ar nwyddau o Tsieina.
Daw mwyafrif helaeth y fentanyl a atafaelwyd ar ffiniau'r UDA o Fecsico.
Yn 2024, cafodd mwy na 21,100 pwys o fentanyl ei feddiannu gan awdurdodau’r UDA ar y ffin â Mecsico, o’i gymharu â dim ond tua 43 pwys ar ffin Canada.
Dywedodd Trump hefyd ei fod yn bwriadu gosod tariff o 10% ar adnoddau ynni o Ganada.
'Gohirio'
Rhybuddiodd Trudeau ddydd Sadwrn y byddai’n gweithredu tariff 25% yn erbyn $155 biliwn o nwyddau’r Unol Daleithiau er mwyn dial ar dariffau Trump.
Ond, mewn neges ar blatfform X, Twitter gynt, ysgrifennodd Trudeau: “Rwyf newydd gael galwad ffôn dda gyda Donald Trump”.
Dywedodd Trudeau fod Canada wedi gwneud ymrwymiadau newydd “i benodi Czar Fentanyl”.
“Mae Canada yn gweithredu ein cynllun gwerth $1.3 biliwn, a fyddai’n atgyfnerthu’r ffin â hofrenyddion, technoleg a phersonél newydd, gwell cydgysylltu gyda’n partneriaid Americanaidd, a mwy o adnoddau i atal llif fentanyl i’r wlad” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae bron i 10,000 o bersonél rheng flaen yn gweithio ar amddiffyn y ffin.”
Ychwanegodd y bydd tariffau arfaethedig yn “cael eu gohirio am o leiaf 30 diwrnod wrth i ni weithio gyda’n gilydd.”
'Terfynol'
Roedd Canada wedi trefnu manylion y cynllun ffin hwnnw ar dudalen we swyddogol ar 18 Rhagfyr, 2024 – chwe wythnos cyn i Trump gyhoeddi’r tariffau.
Dywedodd Trump ar neges Truth Social ar ddydd Llun: “Mae Canada wedi cytuno i sicrhau bod gennym Ffin Ogleddol ddiogel, ac i ddod â’r ffrewyll marwol o gyffuriau fel Fentanyl sydd wedi bod yn arllwys i’n Gwlad i ben, gan ladd cannoedd o filoedd o Americanwyr, wrth ddinistrio eu teuluoedd a’u cymunedau ledled ein Gwlad.”
Dywedodd ei fod yn “falch iawn” o’r penderfyniad, a bod yr oedi yn y tariffau yn digwydd am gyfnod o 30 diwrnod er mwyn gweld “a ellir strwythuro cytundeb economaidd terfynol gyda Chanada ai peidio”.
Gorffennodd y neges drwy ddweud: “TEGWCH I BAWB!”