Newyddion S4C

Gwyddonwyr o Gymru yn datblygu asffalt sy’n ei adfer ei hun

04/02/2025
Dr Jose Norambuena-Contreras
Dr Jose Norambuena-Contreras

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn gobeithio y gall math o asffalt sy’n ei adfer ei hun arbed £143.5 miliwn o bunnoedd y flwyddyn.

Mae’r gwyddonwyr wedi dylunio math newydd o asffalt sy'n gallu trwsio ei graciau ei hun heb fod angen gwaith cynnal a chadw gan bobl.

Roedd y tîm o Brifysgol Abertawe yn cydweithio â gwyddonwyr yn Chile a Choleg y Brenin Llundain.

Dywedodd Dr Jose Norambuena-Contreras, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe eu bod nhw wedi defnyddio gwastraff biomas a deallusrwydd artiffisial.

“Mae'n gosod ein gwaith ymchwil ar flaen y gad o ran arloesi isadeiledd cynaliadwy, gan gyfrannu at ddatblygu ffyrdd sero net sy’n fwy gwydn,” meddai.

Sut mae’n gweithio?

I wneud yr asffalt yn "hunan-adfer", roedd y tîm wedi cynnwys deunyddiau hynod fach, mandyllog a adnabyddir fel sborau, sy'n llai eu maint na gwallt ac wedi'u creu gan blanhigion. 

Mae'r sborau'n llawn olewau ailgylchadwy, sy'n rhyddhau pan fydd yr asffalt yn cracio, gan wrthdroi'r broses.

Dywedodd Dr Francisco Martin-Martinez, arbenigwr mewn cemeg gyfrifiadurol yng Ngholeg y Brenin Llundain eu bod nhw eisiau “efelychu'r nodweddion adfer a welir ym myd natur”. 

“Er enghraifft, pan fydd coeden neu anifail yn cael ei dorri, mae eu clwyfau'n gwella'n naturiol dros amser.

“Bydd creu asffalt sy'n gallu hunan-adfer yn gwella gwydnwch ffyrdd ac yn lleihau'r angen i bobl lenwi tyllau yn y ffyrdd.

"Rydym hefyd yn defnyddio deunyddiau cynaliadwy, gan gynnwys gwastraff biomas, i leihau ein dibyniaeth ar betrolewm ac adnoddau naturiol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.