Diarddel dirprwy reolwr Gwasanaeth Tân y Gogledd dros hen sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol

Mae Dirprwy-Reolwr Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru wedi ei ddiarddel o'i swydd ar ôl i sylwadau homoffobig hanesyddol ar y cyfryngau cymdeithasol ddod i'r amlwg.
Nos Wener, cafodd DCFO Stewart Forshaw ei ddiarddel wedi i'r neges o 2012 ar gyfrwng X ddod i'r golwg - a hynny ddyddiau cyn i adolygiad o ddiwylliant y Gwasanaeth gael ei gyhoeddi.
Derbyniodd Mr. Forshaw, sy’n gyfrifol am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb o fewn y gwasanaeth, wobr am ei Gyfraniad Eithriadol yn y Gwasanaethau Cyhoeddus gan Pride Cymru yn 2024.
Mewn datganiad i staff, sydd wedi ei weld gan ITV Cymru, dywedodd y Prif Swyddog Tân, Dawn Docx: “Cymerais y cam rhagofalus o ddiarddel y Dirprwy dros dro tra bod ymchwiliad llawn a theg yn cael ei gynnal.
“Dw i am gadarnhau fy mod i’n gwbl ymroddedig i gadw’r safonau uchaf o broffesiynoldeb, uniondeb a hyder yn ein Gwasanaeth."
Mae ITV Cymru yn disgwyl i ganlyniadau’r adolygiad gael eu rhyddhau ar ddydd Mercher 5 Chwefror.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai adolygiad ar ôl i dros 35 o bobl gysylltu ag ITV gyda chwynion am “ddiwylliant gwenwynig” o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar fin cyhoeddi adolygiad o’u diwylliant nhw hefyd.
Dywedodd Undeb y Brigadau Tân: “Mae ein haelodau wedi eu dychryn gan y datblygiadau diweddar yma.
“Mae’r ymddygiad yma yn annerbyniol a byddwn yn cadw llygad barcud er mwyn sicrhau bod y mater difrifol hwn yn cael ei drin yn briodol.”
Mewn datganiad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddydd Sadwrn, dywedodd y Prif Swyddog Dân Dawn Docx: “Dw i wedi cael gwybod yn ddiweddar am hen neges ar gyfryngau cymdeithasol sydd wedi’i honni i fod yn gysylltiedig â Dirprwy Brif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
“Mae tryloywder ac atebolrwydd wrth wraidd ein gwasanaeth, a byddwn yn mynd i’r afael â’r mater hwn gyda’r difrifoldeb mae’n ei haeddu.
"Ar hyn o bryd, ni fyddai’n briodol gwneud unrhyw sylw pellach wrth i ni ddilyn y broses briodol.”
Mae ITV Cymru wedi cysylltu â Mr. Forshaw am sylw.