Newyddion S4C

Dal gwerthwr cyffuriau ar ôl iddo dynnu'r cortyn argyfwng ar drên

03/02/2025
Joyce Mukuna

Fe gafodd gwerthwr cyffuriau ei ddal ar ôl iddo dynnu cortyn argyfwng i stopio trên ger tref yn Sir Ddinbych a hynny oherwydd ei fod wedi methu ei orsaf.

Roedd Joyce Mukuna, 23 oed, yn teithio ar drên i Gaergybi ond ar ôl i'r trên yrru heibio'r Rhyl, fe ddechreuodd ymddwyn "yn ymosodol", meddai Heddlu Trafnidiaeth Prydain.    

Ddaeth Mukuna oddi ar y trên ym Mae Colwyn a cheisio rhedeg oddi wrth yr heddlu yn yr orsaf, ond cafodd ei ddal a'i gadw yn y ddalfa.

Daeth swyddogion heddlu o hyd i hosan yn cynnwys cocên a heroin. 

Gwadodd Mukuna ddau gyhuddiad o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.

Ond fe'i cafwyd yn euog o’r ddau gyhuddiad yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, gan gael ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis.

Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Lisa Scott-Savage: "Roedd ymddygiad Mukuna ar y trên a'i driniaeth o'r gard yn gwbl annerbyniol. 

"Nid yn unig y gall yr aflonyddwch fod yn gostus i’r rhwydwaith rheilffyrdd, ond gall effeithio ar ddyddiau cannoedd o deithwyr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.