Cyngor Conwy'n ymuno'n yr alwad am ddatganoli asedau Ystâd y Goron
Cyngor Sir Conwy yw'r cyngor diweddaraf i bleidleisio o blaid galw am ddatganoli rheolaeth dros asedau Ystâd y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.
Ar ôl i gynnig y Cynghorydd Nia Owen gael ei gefnogi mewn cyfarfod o’r cyngor yr wythnos ddiwethaf, bydd Cyngor Conwy nawr yn lobïo i lif refeniw yr asedau hyn “ddod yn gyfan gwbl i goffrau Llywodraeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru gael yr hawl i’w ddefnyddio fel y mynno”.
Gallai Llywodraeth Cymru wedyn ddefnyddio’r arian ychwanegol yma i ariannu awdurdodau lleol fel Conwy yn “fwy teg” mewn cyfnod o “lymder ariannol difrifol” meddai cefnogwyr y cynllun.
Clywodd aelodau yn siambr y cyngor fod Ystâd y Goron yn berchen ar lawer iawn o dir yn y sir ar hyn o bryd, ar y tir a'r môr, gan gynnwys traethau a marinas.
Roed y cyngor wedi talu £47,000 y llynedd i Ystâd y Goron am brydlesau ym Mae Colwyn - arian allai fod wedi mynd i goffrau'r cyngor meddai'r awdurdod.
Wrth bleidleisio o blaid y cynnig, mae Cyngor Conwy yn dilyn sawl cyngor Cymreig arall sydd wedi lobïo am ddatganoli rheolaeth asedau Ystâd y Goron.
Yn dilyn y bleidlais, bydd arweinydd y Cynghorydd Charlie McCoubrey a’r prif weithredwr Rhun ap Gareth nawr yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, yn amlinellu’r gefnogaeth o blaid ceisio perswadio San Steffan i ddatganoli Ystâd y Goron, a hynny fel mater o frys.