Cyfreithiau newydd i dargedu delweddau cam-drin plant drwy AI
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd pedair deddf newydd yn mynd i’r afael â’r bygythiad o ddelweddau cam-drin plant yn rhywiol sy'n cael eu cynhyrchu drwy ddeallusrwydd artiffisial (AI).
Er mwyn amddiffyn plant yn well, dywedodd y Swyddfa Gartref mai'r DU fydd y wlad gyntaf yn y byd i’w gwneud yn anghyfreithlon i feddu ar, creu neu ddosbarthu offer AI sydd wedi’u cynllunio i greu deunydd cam-drin plant yn rhywiol.
Y gosb fydd hyd at bum mlynedd yn y carchar.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper fore dydd Sul y gallai swyddogion ddefnyddio’r gwaharddiad newydd i sicrhau erlyniadau a “chadw mwy o blant yn ddiogel”.
Dywedodd Ms Cooper wrth Sky News: “Mae hon yn ffenomen go iawn ac annifyr sydd wedi dod i’r amlwg ers i ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol ar-lein dyfu, ond hefyd meithrin perthynas amhriodol rhwng plant a phobl ifanc yn eu harddegau ar-lein.
'Ffiaidd'
“Yr hyn sy’n digwydd nawr yw bod AI yn ei gwneud hi’n haws i'r rhai sy'n camdrin, feithrin perthynas amhriodol â phlant, ac mae hefyd yn golygu eu bod yn medru addasu delweddau o blant, ac yna’n eu defnyddio i ddenu a blacmelio pobl ifanc i gael eu cam-drin ymhellach. Dyma’r troseddau mwyaf ffiaidd.
“Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw cryfhau’r gyfraith, ac mae hynny’n cynnwys gwahardd rhai o’r modelau AI rhag cael eu defnyddio ar gyfer cam-drin plant, ond hefyd gwahardd rhai o’r llawlyfrau pedoffiliaid.”
Ychwanegodd Ms Cooper: “Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn gwneud gwaith hynod o bwysig, ond maen nhw’n dweud bod angen y pwerau pellach hyn, ac fe fyddan nhw wedyn yn gallu eu defnyddio i gael erlyniadau i gadw mwy o blant yn ddiogel.”