Trafferthion technegol Barclays yn parhau am y trydydd diwrnod
Am y trydydd diwrnod, mae trafferthion technegol banc Barclays yn parhau gyda miloedd o gwsmeriaid yn methu cael gafael ar eu harian.
Mae rhai cyfrifon ar-lein wedi eu cloi ers ddydd Gwener, gyda'r trafferthion yn effeithio ar wasanethau ar-lein ac ap Barclays.
Yn ôl y banc, dyw taliadau sydd wedi eu gwneud neu eu derbyn, ddim yn ymddangos ar y fantolen.
Mae'r banc wedi ymddiheuro, ac mae'r neges ar ap Barclays fore Sul yn diolch i'w cwsmeriaid am eu hamynedd.
Mae'r neges hefyd yn dweud bod Barclays yn gweithio i geisio datrys y trafferthion a bod y mater yn "cymryd yn hirach na'n dymuniad i'w drwsio".
Mae'n ymddangos mai problem dechnegol sydd ar fai yn hytrach nag ymosodiad seibr.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn, fe ddywedodd y banc na fyddai unrhyw gwsmer yn colli arian.
“Bydd ein canolfannau galw ar agor am gyfnod hirach y penwythnos hwn, a byddwn yn cadw mewn cyswllt â chwsmeriaid a allai fod mewn sefyllfa fregus," meddai'r banc.
Mae miloedd o gwsmeriaid wedi cofnodi yn swyddogol eu bod yn cael trafferthion.
Dechreuodd y trafferthion ddydd Gwener sy'n ddiwrnod derbyn cyflog i nifer o bobl, a dydd Gwener oedd y diwrnod ola i gyflwyno ffurflen dreth hunan-asesiad.
Mae nifer o gwsmeriaid wedi mynegi eu rhwystredigaeth ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd un cwsmer: “Oherwydd Barclays, does gen i ddim arian, roedd gen i archeb fwyd oedd i fod i'n cyrraedd y bore ma, a fydd bellach yn cael ei chanslo, gan adael fy mhedwar o blant heb fwyd. Mae'n jôc, gan mai fy arian i yw e.”
Holodd cwsmer arall: “Sut allaf fwyta a chadw'n gynnes os nad oes modd i mi gael gafael ar fy arian?”
Dywedodd un fam nad yw hi yn medru prynu llaeth ar gyfer ei babi: “Does gen i didm llaeth powdwr ar gyfer fy mhlentyn pedwar mis oed, sy'n sgrechian am ei bwyd, a dydw i'n dal ddim wedi cael fy nhalu.”
“Rydw i yn fy nagrau ers oriau,” ychwanegodd.
Mae Barclays wedi ymateb i nifer o'r sylwadau, gan ymddiheuro a chynghori cwsmeriaid bregus i ofyn am gymorth gan deulu neu ffrindiau neu i gysylltu â banciau bwyd.