Plentyn wedi ei gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhrestatyn
Mae plentyn wedi ei gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd y tu allan i ysgol gynradd ym Mhrestatyn.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i ddigwyddiad y tu allan i Ysgol Y Llys, Prestatyn ychydig cyn 15:15 ddydd Gwener.
Dywedodd yr heddlu bod y gyrrwr wedi “dioddef o episod meddygol” a bod y gwasanaethau brys yn rhoi sylw iddo.
Mae plentyn wedi ei gludo i’r ysbyty “fel rhagofal”, ac mae aelod arall o’r cyhoedd wedi cael mân anafiadau.
Mae’r ffordd y tu allan i’r ysgol wedi cau ar hyn o bryd, ac mae’r heddlu’n gofyn i bobl osgoi’r safle.
Llun: Google Maps