Bangor: Ffordd ar gau am 'gyfnod sylweddol' wedi gwrthdrawiad difrifol
Fe fydd rhan o ffordd yr A487 ger Bangor ar gau am “gyfnod sylweddol” yn dilyn “gwrthdrawiad difrifol” fore Iau.
Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i’r digwyddiad rhwng cylchfan Parc Menai a chyffordd Penrhosgarnedd ychydig wedi 7.00.
Yn ôl Traffig Cymru, fe fydd y ffordd ar gau am “gyfnod sylweddol o amser oherwydd difrifoldeb y digwyddiad.”
Mae traffig wedi ei ddargyfeirio tra bod y fford ar gau.
Inline Tweet: https://twitter.com/TraffigCymruG/status/1884865668656369883
Mae rhybudd i fodurwyr i gynllunio o flaen llaw a rhoi amser ychwanegol wrth deithio yn yr ardal.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Heddlu Gogledd Cymru am ragor o fanylion am y gwrthdrawiad.
Llun: Google Maps