Newyddion S4C

Menyw o Sir Gâr am gynnig sesiynau acwa aerobeg yn Gymraeg

30/01/2025
Rhiannon Jenkins

Mae menyw 70 oed o Sir Gâr wedi cymhwyso fel hyfforddwraig acwa aerobeg er mwyn darparu sesiynau yn y Gymraeg.

Roedd Rhiannon Wynn Jenkins o Gapel Hendre yn mwynhau mynychu sesiynau acwa aerobeg ar ôl iddi ymddeol wedi gyrfa ym myd addysg.

Ond pan aeth ati i chwilio am sesiynau yn y Gymraeg nid oedd yn gallu dod o hyd i un yn ei hardal.

“O’n i’n cyrraedd rhyw oedran yr addewid a gweld o’n i mo’yn neud rhywbeth," meddai wrth Newyddion S4C.

“Roedd acwa aerobeg yn gwerth dirfawr mewn nifer o ffyrdd gwahanol, o ran pwysau gwaed, helpu balans ac iechyd meddwl hefyd.

“Dyma fi’n gweld ‘bydde dim ots ‘da fi neud hyn fy hun.’"

Fe aeth hi i Swindon er mwyn cymhwyso i fod yn hyfforddwraig a bellach mae'n cynnal sesiynau yn y Saesneg yn Llety Cynin ger Sanclêr a’r Four Seasons yn Nantgaredig. 

'Tebot Piws a Patagonia'

Ar 3 Chwefror fe fydd hi'n cynnal ei sesiwn cyntaf yn y Gymraeg yn y Four Seasons, gan ddefnyddio cerddoriaeth Gymraeg hefyd.

“Credwch neu beidio mae tipyn yn fwy anodd. Mae’r ymarferion ei hun yn wych ond mae rhaid i chi gael y miwsig pwrpasol trwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

“Dwi wedi llwyddo i gael cerddoriaeth sy’n fuddiol i’r ymarferion. Gallech chi ddim neud acwa i ‘Ysbryd y Nos’ na chwaith ‘Dwy Law Yn Erfyn’.

“Felly rhaid i chi gael beat arbennig i wneud hyn, credwch chi neu beidio ma’ cwpl o ganeuon Tebot Piws yn wych, ond hefyd ‘Patagonia’ gyda Dylan Morris.

“Mae rhaid cael y beat ‘na er mwyn bod pawb yn gallu ymarfer o fewn y dŵr.

“Ni eisiau sicrhau bod ni’n gallu gwneud rhywbeth sydd wedi tyfu, yn sicr o ran galw, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.