Newyddion S4C

Symud Cloc Dydd y Farn yn agosach nag erioed at drychineb byd eang

29/01/2025

Symud Cloc Dydd y Farn yn agosach nag erioed at drychineb byd eang

Mae Cloc Dydd y Farn wedi’i symud yn nes at hanner nos nag erioed o’r blaen, gan awgrymu ein bod yn nesáu at drychineb byd-eang.

Mae amser newydd y cloc, sydd wedi'i osod am 89 eiliad i hanner nos, yn golygu ei fod eiliad yn agosach na lle'r oedd wedi bod am y ddwy flynedd flaenorol.

Mae'r cloc yn cael ei ddefnyddio fel symbol o'r peryglon sy'n wynebu dynoliaeth ac mae'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol yn seiliedig ar ba mor agos ydyn ni at ddinistrio'r byd, gyda hanner nos yn symbol o'r pwynt hwnnw.

Arbenigwyr o Fwletin y Gwyddonwyr Atomig sydd yn penderfynu ar amser y cloc.

Fe gafodd y fenter ei lansio gan y sefydliad yn y 1940au mewn ymateb i fygythiad rhyfel niwclear.

Ar ôl i’r Unol Daleithiau ollwng bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd aelodau’r Bwletin yn credu bod angen helpu’r cyhoedd i ddeall maint bygythiad niwclear.

Hyd heddiw, mae bwrdd gwyddoniaeth a diogelwch y Bwletin, sy'n cynnwys arbenigwyr niwclear a hinsawdd, yn penderfynu ar amser y cloc. 

Mae'r cloc yn symud yn nes neu ymhellach i ffwrdd o hanner nos yn seiliedig ar sut mae'r arbenigwyr ar y bwrdd yn dehongli'r bygythiadau sy'n wynebu'r byd.

'Rhybudd i arweinwyr'

Yn ôl y gwyddonwyr, dylai amser newydd y cloc o 89 eiliad i hanner nos fod yn "rhybudd i holl arweinwyr y byd".

Dywedodd Daniel Holz, cadeirydd bwrdd gwyddoniaeth a diogelwch y Bwletin: “Dyw'r ffactorau sy’n llywio’r penderfyniad eleni – risg niwclear, newid hinsawdd, y posibilrwydd o gamddefnyddio datblygiadau mewn gwyddoniaeth fiolegol ac amrywiaeth o dechnolegau eraill sy’n dod i’r amlwg, fel deallusrwydd artiffisial – ddim yn newydd yn 2024.

“Ond rydym wedi gweld cynnydd annigonol wrth fynd i’r afael â’r heriau allweddol, ac mewn llawer o achosion mae hyn yn arwain at effeithiau cynyddol negyddol a phryderus.

“Mae gosod Cloc Dydd y Farn ar 89 eiliad i hanner nos yn rhybudd i holl arweinwyr y byd.

"Mae'r rhyfel yn Wcráin yn parhau i fod yn ffynhonnell sylweddol o risg niwclear; gallai'r gwrthdaro ehangu i gynnwys arfau niwclear ar unrhyw adeg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.