Newyddion S4C

Nain wedi 'byw yn hirach' pe bai meddyg teulu wedi gweithredu medd adroddiad

29/01/2025
Triniaeth canser

Mae’n debyg y gallai nain fod wedi byw “yn hirach” pe bai wedi cael diagnosis cynharach o ganser y bledren, medd adroddiad newydd. 

Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bod methiant ar ran ei meddyg teulu wedi ei hatal rhag “goroesi yn hirach.” 

Roedd y meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â chymryd camau priodol a fyddai wedi arwain at ddiagnosis cynharach o ganser pledren Mrs F.

“Er na allaf fod yn sicr y byddai hyn wedi atal marwolaeth Mrs F, ar ôl pwyso a mesur, mae’n debygol y byddai wedi goroesi yn hirach. 

“Mae hyn yn anghyfiawnder difrifol,” meddai’r Ombwdsmon Michelle Morris. 

Mae'r Practis meddygol wedi dweud eu bod yn derbyn casgliadau'r adroddiad ac y byddan nhw yn gweithredu'r argymhellion. 

Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ymateb. 

'Methiant sylweddol'

Fe wnaeth wyres Mrs F, sef Ms D, gwyno am driniaeth ei nain gan ddweud bod ei meddyg teulu wedi “cam-ddiagnosio symptomau canser pledren… dro ar ôl tro, a’u cam-drin fel heintiau’r llwybr wrinol.” 

Yn ôl ymchwiliad yr Ombwdsmon, dylai symptomau Mrs F fod wedi golygu ei bod wedi cael ei chyfeirio ar frys at arbenigwyr ar amheuaeth o ganser ym mis Gorffennaf 2021.

Ond er gwaethaf ei “symptomau parhaus” dim ond ym mis Mai 2022 y cafodd Mrs F ei chyfeirio gan ei meddyg teulu ar gyfer ymchwiliad pellach.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod hwn yn “fethiant gwasanaeth sylweddol.” 

“Mae’n drist gennyf ddod i’r casgliad ei bod yn debygol y byddai canser pledren Mrs F wedi cael diagnosis a thriniaeth yn gynt, pe bai atgyfeiriad brys wedi’i wneud ar gyfer Mrs F yn gynharach,” meddai Ms Morris. 

Argymhellion

Mae bellach wedi argymell y dylai’r meddyg teulu ymddiheuro’n uniongyrchol i wyres Mrs F, gan nodi unrhyw bwyntiau dysgu o’r achos, a darparu hyfforddiant perthnasol i feddygon. 

Dywedodd y Practis y byddai bellach yn gwneud newidiadau i’r ffordd y mae’n gwneud trefniadau dilynol â chleifion gyda heintiau’r llwybr wrinol. 

Mae hefyd yn bwriadu sefydlu system rybuddio ar gyfer dilyniant cleifion â gwaed parhaus yn eu wrin, yn enwedig mewn achosion tebyg i Mrs F.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Practis yn rhoi cadarnhad i’w swyddfa bod y system rybuddio newydd ar waith.

Mae’r Practis wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau’r Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.