Newyddion S4C

Y cyn ddyfarnwr David Coote wedi cuddio'r ffaith ei fod yn hoyw rhag cael ymateb negyddol

28/01/2025
David Coote

Mae cyn ddyfarnwr Uwch gynghrair Lloegr David Coote wedi dweud ei fod wedi cuddio'r ffaith ei fod yn hoyw yn ystod ei yrfa am ei fod yn poeni am yr ymateb y byddai yn ei gael.

Dywedodd David Coote mewn cyfweliad gyda The Sun ei fod wedi "stryglo gyda bod yn falch o fod yn 'fi' dros gyfnod hir o amser".

Cafodd Coote, sy'n 42, ei ddiswyddo yn dilyn ymchwiliad gan y corff sy'n goruchwylio gwaith dyfarnwyr ym mis Rhagfyr.

Fe ddigwyddodd yr ymchwiliad ar ôl i fideo ddod i'r amlwg oedd yn dangos David Coote yn gwneud sylwadau sarhaus yn erbyn Lerpwl a chyn rheolwr y clwb, Jurgen Klopp. 

Fe gyhoeddodd The Sun ddyddiau yn ddiweddarach luniau ohono. Roedden nhw yn honni fod y lluniau wedi eu cymryd yn ystod yr Euros  y llynedd ac yn ei ddangos o yn cymryd cocên.

Mae Coote wedi dweud nawr nad oedd yn "sobr" yn ystod y fideo ohono ac nad yw'n "adnabod ei hun" yn y fideo arall ohono.

Roedd ganddo amserlen brysur o ddyfarnu gemau yn ystod tymor 2023/24 ac fe fuodd ei fam farw yn sydyn yn 2023.

'Cuddio emosiynau'

"Dwi ddim yn adnabod fy hun yn y fideo cocên. Allai ddim cyseinio gyda sut o'n i yn teimlo'r adeg hynny ond fi yw'r person yna," meddai wrth The Sun. 

"O'n i yn stryglo gyda fy amserlen a doedd dim cyfle i stopio. Ac felly fe wnes i ddarganfod fy hun yn y sefyllfa yna - eisiau dianc.

Dywedodd ei fod wedi teimlo cywilydd ynglŷn â'i rhywioldeb pan oedd yn ei arddegau ac nad oedd wedi dweud wrth ei deulu na'i ffrindiau tan ei fod yn ei 20au.

"Fe wnes i guddio fy emosiynau fel dyfarnwr ifanc a chuddio fy rhywioldeb hefyd - rhinwedd dda fel dyfarnwr ond ofnadwy fel person. Ac fe wnaeth hynny arwain at bob math o ymddygiad."

Ychwanegodd ei fod wedi bod "mewn lle tywyll" ers i'r straeon ddod allan a heblaw am gefnogaeth y rhai sydd yn agos ato mae'n dweud nad yw'n "siŵr a fyddwn i yma heddiw".

Mae David Coote yn dweud ei fod wedi cael help i ddelio gyda'i broblem cyffuriau ac mae'n annog eraill i siarad.

"I bobl eraill sydd yn fy sefyllfa i, fe fyswn i yn dweud ewch i gael help a siaradwch gyda rhywun achos os ydych chi yn cadw bob dim i fewn fel dwi wedi gwneud, mae'n rhaid iddo ddod allan mewn rhyw ffordd." 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.