Plant wedi ymuno â therfysgoedd ar gyfer 'cyffro'r foment'
Roedd plant a gymerodd ran mewn terfysgoedd yr haf diwethaf yn cael eu gyrru’n bennaf gan chwilfrydedd a “chyffro'r foment” yn hytrach nag ideoleg dde eithafol meddai adroddiad newydd.
Yr haf y llynedd fe fuodd yna derfysgoedd ar draws Lloegr am wythnosau.
Fe ddigwyddodd hyn wedi llofruddiaeth tair merch fach mewn dosbarth dawnsio yn Southport.
Cafodd Axel Rudakubana, a lofruddiodd y tair merch ei ddedfrydu i o leiaf 52 mlynedd dan glo wythnos ddiwethaf.
Daw'r adroddiad newydd gan Gomisiynydd Plant Lloegr wedi i Rudakubana dderbyn y ddedfryd honno.
Ymhlith y rhesymau eraill pam roedd rhai o'r plant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yn y terfysgoedd oedd diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu a diffyg cyfleoedd.
'Darlun cymhleth'
Ychwanegodd y Fonesig Rachel De Souza fod ei chyfweliadau gyda'r rhai oedd wedi eu cyhuddo yn “peintio darlun mwy cymhleth” ynglŷn â sut roedden nhw wedi cymryd rhan yn y terfysgoedd.
Ar ôl llofruddiaethau Suothport fe gafodd gwybodaeth anghywir ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud bod y person oedd yn gyfrifol yn fewnfudwr.
Cafodd protest dreisgar ei gynnal yn agos i leoliad y digwyddiad y diwrnod wedyn.
Fe wnaeth y terfysgoedd ledu ac fe gafodd mosgiau a gwestai a oedd yn gartref i fudwyr eu targedu ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.
'Dim cyfiawnhad am drais'
Disgrifiodd y Prif Weinidog Keir Starmer y trais ar y pryd fel ymosodiadau "asgell dde eithafol". Addawodd y byddai'r rhai oedd yn gysylltiedig yn "wynebu grym llawn y gyfraith".
Mae'r adroddiad yn dweud fod o leiaf 147 o blant wedi’u harestio ac 84 wedi’u cyhuddo ers y terfysgoedd, gyda rhai mor ifanc â 12 wedi’u dedfrydu.
Dywedodd y Fonesig De Souza fod ei chyfweliadau hi gyda'r 14 o blant oedd "heb gael eu clywed ac yn cael eu hanwybyddu" yn codi "cwestiynau gwirioneddol ddifrifol am blentyndod yn Lloegr a pham bod ein plant yn teimlo mor anfodlon a di-rym."
Ond ychwanegodd hefyd nad oedd hynny "yn esgusodi troseddu".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod y "gyfundrefn gyfiawnder troseddol gyfan wedi dod â throseddwyr o bob oed o flaen eu gwell" a bod hynny yn "hanfodol er mwyn adfer trefn". Does dim "unrhyw gyfiawnhad" dros y trais a welwyd y llynedd meddai'r llefarydd.