Dod o hyd i ddeunydd 'sy'n dyddio dros 7000 o flynyddoedd yn ôl' yn Abaty Ystrad Fflur
Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i ddeunydd "sy'n dyddio dros 7000 o flynyddoedd yn ôl" yn Abaty Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur fod canlyniadau arbrofion yn awgrymu gweithgaredd yn yr ardal cyn iddo gael ei ddefnyddio fel abaty.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf mae archeolegwyr wedi bod yn cloddio ar fuarth adeiladau fferm Mynachlog Fawr sydd drws nesaf i'r abaty ac sy'n cael eu hadnewyddu.
Mae'r gwaith cloddio wedi datgelu strwythurau a nodweddion o dan y buarth, gan gynnwys traphont ddŵr mawr ac adeiladau canoloesol a oedd gynt yn rhan o'r abaty.
Fe gafodd 11 o samplau eu hanfon at arbenigwyr i ddarganfod mwy amdanynt. Fe ddaeth y samplau o lefydd allweddol ar draws y safle.
Roedd pump yn dyddio rhwng diwedd y 12fed ganrif a'r 13eg ganrif tra bod pump arall yn dyddio o rhwng 951AD a 1172AD, sef cyn dyfodiad Mynachod Sistersiaid i'r safle.
Y gred yw bod y samplau yma yn gysylltiedig ag arwynebau cerrig gwastad a waliau cerrig.
Dyw hi ddim yn glir sut y defnyddiwyd y safle cyn i'r Sistersiaid gyrraedd. Ond mae'r ymddiriedolaeth yn dweud eu bod hi'n bosib mai eglwys neu fynachlog oedd yno.
"Mae’r sampl terfynol yn dyddio o rhwng 5920 a 5758CC, nifer syfrdanol o 7,500 o flynyddoedd yn ôl yn y Cyfnod Mesolithig," meddai'r ymddiriedolaeth.
Bydd y cloddio yn parhau ar y safle yn ystod y flwyddyn er mwyn deall mwy am y lleoliad ac i hybu ymchwil.
Llun: Ymddiriedaeth Ystrad Fflur