'Corau yn bwysig i gynnal Cymreictod yn Llundain'
'Corau yn bwysig i gynnal Cymreictod yn Llundain'
# Haleliwia, haleliwia, haleliwia #
Codi canu yn Gymraeg yng nghanol Llundain.
Ydy, mae'r iaith ym mhrifddinas Lloegr i'w chlywed gan Gor Meibion Gwalia.
Ers canrifoedd mae Cymry 'di ymgartrefu yn y ddinas a Chymry Llundain heddi yn daer dros gynnal y cysylltiad hwnnw.
I un sy'n wreiddiol o Awstralia wnaeth benderfynu dysgu Cymraeg mae'n gyfle i ymarfer yr iaith.
"Ar ôl i fi clywed am y prosiect miliwn ar y radio penderfynais cefnogi iaith newydd a math newydd o iaith a chefnogi diwylliant Prydeinig.
"Mae'r iaith yn fyw dim ond os yw pobl yn defnyddio'r iaith.
"Y mwya o bobl sy'n defnyddio iaith, dylai'r iaith fod yn fwy sicr."
Yn ôl yr ystadegau diwethaf roedd 'na gwymp yn y nifer sy'n medru'r Gymraeg ac ymgyrchwyr iaith yn sicr o weld hynny yn newid yng Nghymru ond hefyd dros y ffin yn Lloegr.
Yma yn Llundain, prifddinas Prydain sy'n gartre i gynifer o Gymry mae 'na rai wedi mynd ati i sefydlu Cell Cymdeithas yr Iaith.
"Beth ni'n gallu gwneud yw codi ymwybyddiaeth pobl yn Lloegr am bethe fel yr iaith a shwt mae ail dai yn achosi problemau i Gymraeg fod yn iaith y gymuned."
Dros Glawdd Offa, mae'r awydd am weld miliwn o siaradwyr Cymraeg yn unol â tharged y Llywodraeth yn glir.
"Mae pethe fel y corau yma yn Llundain yn bwysig iawn i roi cymorth i bobl sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg ac wrth gwrs i atynu pobl eraill sy'n ymddiddori yn y Gymraeg."
'Gorau Cymro, Cymro oddi cartref' medden nhw.
A gwahoddiad i eraill os ydyn nhw am gynnal eu Cymreictod yn Llundain.